Parc i’r Bobl

70 mlynedd o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Yn esblygiad y dirwedd eithriadol hon, a luniwyd dros filiynau o flynyddoedd, prin bod cyfnod o 70 mlynedd yn cyfrif...

Ac eto i Arfordir Penfro, mae’r 70 mlynedd diwethaf wedi bod yn hollbwysig. Er bod pobl wedi byw yn yr ardaloedd sydd bellach yn rhan o’n Parc Cenedlaethol am dros filoedd o flynyddoedd, ac yn ddi-os wedi rhyfeddu at ei harddwch – fel sy’n digwydd heddiw – dim ond yn 1952 y dyfarnwyd statws cyfreithiol iddo fel Parc Cenedlaethol ac fel lle i’w ddiogelu a’i warchod am byth.

Ond nid moment unigryw o radicaliaeth ar ôl y rhyfel a arweiniodd at ddynodi Arfordir Penfro yn Barc Cenedlaethol.  Er mor hawdd fyddai edrych ar Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 fel y Glec Fawr a greodd ein Parciau Cenedlaethol, roedd yr ymgyrch i warchod ardaloedd gwyllt mwyaf syfrdanol y DU wedi bod yn ennill momentwm ers o leiaf ganrif.

Wrth i’r Chwyldro Diwydiannol drawsnewid trefi a dinasoedd y DU yn ganolfannau trefol gorboblog, dechreuodd pobl ddyheu am harddwch cefn gwlad a’r ddihangfa roedd yn ei chynnig rhag bywyd trefol. Roedd hyn yn cael ei adlewyrchu yng ngwaith beirdd Rhamantaidd fel Wordsworth, a honnodd yn enwog fod Ardal y Llynnoedd fel “math o eiddo cenedlaethol, y mae gan bob dyn, sydd â llygad i ganfod a chalon i fwynhau, hawl a diddordeb ynddo”.

Fodd bynnag, nid oedd pob tirfeddiannwr yn cytuno, a chafwyd canrif o wrthryfela aflwyddiannus – a mwy o wrthdaro rhwng y rheini a oedd yn berchen ar y tir a’r rheini a oedd yn teimlo bod ganddynt hawl i gael mynediad iddo ac i fanteisio arno – cyn i’r ddeddfwriaeth hollbwysig gael ei phasio.

Erbyn hyn, roedd arfordir Sir Benfro ynghyd â’i ynysoedd ar y môr sy’n gyforiog o fywyd gwyllt, Bryniau Preseli, a rhannau uchaf Dyfrffordd Aberdaugleddau – y Daugleddau – i gyd wedi’u clustnodi fel ardaloedd sy’n werth eu diogelu.

Black and white photograph from 1950s showing 3 men digging a path on a grassy clifftop

Roedd gan bobl deimladau cymysg bod y lefel uchaf o warchodaeth yn cael ei rhoi i gyfran mor fawr o’r dirwedd leol. Er bod rhai yn poeni am faterion cynllunio a’r posibilrwydd o atal datblygu busnes, roedd eraill yn poeni, heb statws Parc Cenedlaethol, y byddai’r sir yn cael ei difetha gan dai haf hyll a chytiau di-chwaeth ar lan y môr ac yn wynebu’r un dynged â threfi glan môr eraill ledled y wlad.

Dair blynedd yn ddiweddarach, yn ystod blwyddyn naid gythryblus a oedd eisoes wedi gweld newid yn y frenhiniaeth, diddymu cardiau adnabod adeg y rhyfel a chreu bom atomig cyntaf y DU, Arfordir Penfro oedd y pumed Parc Cenedlaethol i gael ei sefydlu yn y DU, yn dilyn y Peak District, Ardal y Llynnoedd, Eryri a Dartmoor.

Skomer Island viewed from the Deer Park on the mainland. Skomer Island, Pembrokeshire, Wales, UK

Mae Parciau Cenedlaethol yn bopeth i bawb, ac nid yw Arfordir Penfro wedi bod yn eithriad dros y 70 mlynedd diwethaf. Mae’n ardal lle mae pobl yn dod i fwynhau cefn gwlad a’i holl gyfleoedd hamdden, a hefyd lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn magu eu teuluoedd.

Er na allai neb fod wedi rhagweld yr amgylchiadau byd-eang sydd wedi arwain at ddathlu’r garreg filltir hynod hon, mae’n briodol, wrth i Arfordir Penfro ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed, bod ein gwerthfawrogiad o’n mannau gwyllt a naturiol wedi cyrraedd lefel nas gwelwyd ers creu Parciau Cenedlaethol.

Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, ein gobaith yw y bydd Arfordir Penfro yn parhau i fod yn gartref o noddfa a lloches, i bobl, planhigion ac anifeiliaid fel ei gilydd, am lawer mwy o flynyddoedd i ddod.

Darganfyddwch fwy am y Parc Cenedlaethol

Darganfyddwch fwy am y Parc Cenedlaethol