Newidiadau Ffocws

Cynllun Datblygu Lleol 2

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Mae’r Awdurdod wedi paratoi dogfen ar y Newidiadau Ffocws ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd, a ffurflen cyflwyno sylwadau a nodyn cyfarwyddyd i gyd-fynd â’r ddogfen.

Dogfen Newidiadau Ffocws

Ffurflen Cyflwyno Sylwadau

Nodyn Cyfarwyddyd

Mae’r ddogfen Newidiadau Ffocws wedi’i seilio ar y newidiadau a ddeilliodd o argymhellion yr Awdurdod ar ôl ystyried y sylwadau a dderbyniwyd yn y Cam Adneuo.

Copïau o’r dogfennau hyn

Mae copïau o ddogfennau’r CDLl ar gael i’w weld yn rhad ac am ddim ar gyfrifiaduron sydd ar gael i’r cyhoedd yn y lleoliadau isod:

  • Pencadlys Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY. Oriau Agor: Dydd Llun i Ddydd Iau 9am i 5pm a dydd Gwener 9am i 4.30pm.
  • Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi, Sir Benfro, SA62 6NW. Oriau agor: bob dydd 9.30am i 4pm.
  • Llyfrgelloedd yn ystod eu horiau agor arferol.

Dim ond ar y Newidiadau Ffocws Arfaethedig hyn y gellir gwneud sylwadau arnynt ar hyn o bryd

Nid cyfle yw hwn i ychwanegu at sylwadau blaenorol, nac i wneud sylwadau newydd ar rannau o’r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo nad ydynt yn destun newid, gan na fydd yr Arolygydd yn ystyried y cyfryw sylwadau o’r newydd. Bydd yr Awdurdod yn ymateb i’r sylwadau ar y Newidiadau Ffocws yn uniongyrchol i’r Arolygiaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yn ymwneud â’r ddogfen Newidiadau â Ffocws arfaethedig oedd 4.30pm ddydd Gwener 15 Chwefror 2019.

Dylid anfon sylwadau naill ai drwy’r e-bost at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk neu yn ysgrifenedig at:

Gwasanaeth Cyfarwyddyd y Parc, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY.

Y Camau nesaf

Bydd y Swyddog Rhaglen yn ysgrifennu atoch ar wahân i roi gwybod i chi am ddyddiadau’r cyfarfodydd hyn ac amserlen y dyfodol ynglŷn ag Archwiliad y Cynllun Datblygu Lleol.

Am ragor o wybodaeth neu gymorth, ebostiwch devplans@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 01646 624800 a gofyn am siarad â rhywun yn y Gwasanaeth Cyfarwyddyd y Parc sy’n delio â’r Cynllun neu Mrs Caroline Llewellyn, y Swyddog Rhaglen, ar 01646 624800 / 07773 932339 neu anfonwch e-bost at programmeofficer@pembrokeshirecoast.org.uk fydd yn bwynt cyswllt rhwng yr Awdurdod, y Rhai a Gyflwynodd Sylwadau a’r Arolygydd, ac yn cynorthwyo i sicrhau bod yr Archwiliad yn mynd rhagddo yn hwylus.

Mwy am Gynllun Datblygu Lleol 2