Mae Oriel y Parc wedi ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus i greu hyb codi sbwriel cymunedol newydd.

Mae sbwriel wedi dod yn broblem gynyddol ym mhob rhan o Gymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae wedi bod yn arbennig o amlwg mewn ardaloedd gwledig a mannau hardd, lle gwelwyd llawer mwy o ymwelwyr nag arfer. Drwy weithio gydag awdurdodau lleol, nod Caru Cymru yw ysbrydoli unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau i fod yn rhagweithiol wrth ofalu am eu hamgylchedd lleol.

Bydd yr hyb newydd yn Oriel y Parc yn ymuno â rhwydwaith o hybiau eraill ledled y wlad, sy’n cynnig benthyg offer codi sbwriel yn rhad ac am ddim, gan gynnwys teclynnau i godi sbwriel, festiau llachar, bagiau a chylchoedd sbwriel.

Meddai Claire Bates, Rheolwr Gwasanaethau i Ymwelwyr yn Oriel y Parc:

“Mae’n bleser ymuno â’r fenter hon, sy’n ceisio cadw’r llefydd sydd wedi bod mor bwysig i’n lles corfforol a meddyliol dros y blynyddoedd diwethaf yn lân ac yn ddiogel.

“Mae sbwriel nid yn unig yn falltod ar ein hardal leol, ond mae’n arwain at ganlyniadau difrifol i’r bywyd gwyllt sy’n byw ac yn ffynnu yn ein Parc Cenedlaethol.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae o ran mynd i’r afael â’r broblem hon, a nod yr hyb newydd yw darparu’r arfau ar gyfer y gwaith.”

I gael gwybod am ddigwyddiadau ac arddangosfeydd eraill sy’n digwydd yn Oriel y Parc trwy gydol y flwyddyn ewch i calendr digwyddiadau Oriel y Parc.

Group of people litter pic