Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn cynnwys llwybrau cyhoeddus, llwybrau ceffylau a chilffyrdd. Dyma'r ffordd orau o archwilio arfordir ac ardaloedd gwledig y Parc Cenedlaethol.

ffwrdd oddi wrth Lwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, mae’r rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus yn rhoi mynediad i gymoedd coediog, rhostir, bryniau a dyfrffordd y Daugleddau, Yn ychwanegol at Lwybr yr Arfordir mae yna dros 800 km (500 milltir) o hawliau tramwy cyhoeddus.

Mae mwyafrif yr hawliau tramwy cyhoeddus wedi eu clustnodi fel llwybrau troed cyhoeddus, ac mae 20% o’r rhwydwaith yn llwybrau ceffylau.

Esblygodd y llwybrau troed, y llwybrau ceffylau a’r culffyrdd sydd gennym heddiw dros y canrifoedd fel ffordd o gyfathrebu rhwng pentrefi.

Gwarchodir hawliau tramwy cyhoeddus gan ddeddfwriaeth ac maen nhw’n cael eu defnyddio’n fwy ac yn fwy gan bobl i archwilio ac i fwynhau ardaloedd cefn gwlad.

Yn anffodus mae rhai llwybrau wedi’u hesgeuluso oherwydd diffyg defnydd a chynnal a chadw ers iddyn nhw gael eu cofrestru yn y 1950au.

Sut i ddweud y gwahaniaeth rhwng llwybr troed, llwybr ceffylau a chilffordd

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi bod yn gwella cyflwr y rhwydwaith hwn yn raddol ac mae’n gwneud gwelliannau bob blwyddyn i roi mwy o sgôp i gerddwyr, seiclwyr a marchogion i fod allan ar grwydr. Mae tua 85% o’r rhwydwaith ar gael i’w ddefnyddio a bob blwyddyn rydyn ni’n dilyn rhaglen o welliannau i wella’r cyfleoedd mynediad ar eich cyfer chi.

Fel arfer, mae yna arwyddion at lwybrau cyhoeddus o ymyl y ffordd a ble maen nhw’n ymuno â llwybrau eraill. Mae’r arwyddion hyn yn dangos cyfeiriad y llwybr a’i statws – mae arwydd cerddwr yn dangos llwybr troed, ac mae arwydd marchog yn dangos llwybr ceffylau.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd yn codi marcwyr ffyrdd ar hyd llwybrau i helpu defnyddwyr i ddilyn y llwybr yn hyderus ac i osgoi unrhyw tresbasu anfwriadol. Mae’r rhain yn dilyn system safonol a ddefnyddir ledled Cymru a Lloegr, gan ddefnyddio saethau lliw i ddangos cyfeiriad y llwybr.

Melyn = llwybrau troed = cerddwyr yn unig.

Glas = llwybrau ceffylau = cerddwyr, seiclwyr a marchogion.

Coch = culffyrdd = ar agor i bob trafnidiaeth.

Wooden signpost on the Pembrokeshire Coast Path at Marloes Sands, Pembrokeshire, Wales, UK

Map Diffiniol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Y Map Diffiniol yw’r gofrestr o hawliau tramwy cyhoeddus. Mae’n ddogfen gyfreithiol ac yn cyd-fynd â hi mae’r Datganiad Diffiniol sy’n darparu disgrifiad ysgrifenedig o bob llwybr.

Mae’r dogfennau cofrestru hyn yn cael eu dal gan Gyngor Sir Penfro a gyda’i gilydd maent yn brawf diymwad o fodolaeth, llwybr a statws yr holl hawliau tramwy cyhoeddus yn y sir, gan gynnwys y Parc Cenedlaethol. Cyhoeddwyd y Map Diffiniol cyntaf ym 1960.

Mae Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am adolygu’r Map Diffiniol yn barhaus. Mae’r Map Diffiniol cyfunol yn adrodd yr holl newidiadau cyfreithiol (creu, dargyfeirio, ailddosbarthu a dileu) sydd wedi digwydd mewn perthynas â hawliau tramwy cyhoeddus rhwng 1956 a 2010.

Group of walkers on St Davids Head

Mapiau Eraill a Chyngor

Mae map Arolwg Ordnans yn gyfaill cerdded gwych, oherwydd mae’n dangos yr holl hawliau tramwy cyhoeddus. Y ddau fap gorau i gerddwyr a marchogwyr yw’r ddau Fap Explorer: OL 35 (Gogledd Sir Benfro) ac OL 36 (De Sir Benfro) sydd ar raddfa o 1:25,000.

Cofiwch fod y rhan fwyaf o’r llwybrau yn y Parc Cenedlaethol yn croesi tir amaethyddol sy’n eiddo i berchnogion preifat. A wnewch chi barchu’r Côd Cefn Gwlad a chymryd gofal arbennig os ydych yn cerdded ci yn agos at dda byw.

Mae gan Gymdeithas y Cerddwyr gyngor ar gerdded yn ddiogel.

Os ydych chi am gysylltu â ni ynglŷn â chyflwr llwybr cyhoeddus neu broblem rydych wedi dod ar ei draws wrth ddefnyddio hawliau tramwy cyhoeddus, anfonwch e-bost at prow@pembrokeshirecoast.org.uk.