Os oes angen i chi osgoi grisiau a llethrau serth, mae digon o fannau godidog eraill i chi ymweld â nhw yn y Parc Cenedlaethol
Mae llwybrau cerdded, traethau a golygfannau hygyrch ar Arfordir Sir Benfro. Mewn mannau, mae cadeiriau olwyn y traeth a sgwteri symudedd ar gael i’w llogi er mwyn eich helpu i’w cyrraedd.
Walkability
Ar gyfer pobl o bob gallu
Mae’r Prosiect Walkability yn helpu pobl o bob gallu sy’n byw yn Sir Benfro i fwynhau’r cefn gwlad a’r arfordir anhygoel sydd o’u cwmpas.