Cynefinoedd

Yr enw ar y llefydd ble mae anifeiliaid a phlanhigion y byw yw Cynefinoedd. Mae yna lawer o gynefinoedd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy'n cynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt; rhai cyffredin a rhai prin. Mae'r rhain yn cynnwys traethau, glan y môr a godiroedd, gweundir a mynyddoedd, rhostir a choetir.

Mae anifeiliaid a phlanhigion wedi addasu ar gyfer yr amgylchedd ble maen nhw’n byw. Er enghraifft, mae bywyd gwyllt ar lan y môr yn gallu dioddef yr heli (dŵr hallt), y rheiny sy’n byw ar y gweundir yn gallu dioddef asidedd gwael y ddaear, a’r rheiny sy’n byw mewn coetir yn gallu dioddef byw yn y cysgod.  Gelwir yr amrywiaeth o fywyd gwyllt yn fioamrywiaeth ac mae’n benodol i bob cynefin. Yn gyffredinol, po fwyaf y bioamrywiaeth mewn cynefin, yr iachach y bydd y cynefin a’r mwyaf tebygol y mae i oroesi ar gyfer y dyfodol.

Mae’n ddyletswydd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i amddiffyn y cynefinoedd yn y Parc ac i warchod eu bioamrywiaeth.

Gwneir hyn trwy fonitro’r cynefinoedd fel ein bod ni’n gwybod pa mor dda y mae’r anifeiliaid a’r planhigion yn ffynnu.

Mae Cadwraeth fel swydd, yn cael ei wneud gan ecolegwyr, parcmyn a wardeiniaid. Os oes angen, fe fyddan nhw’n rheoli’r cynefin i helpu ei gadw’n iach a chynyddu ei fioamrywiaeth.

Mae Rheolaeth yn gallu cynnwys gwaith corfforol fel torri llystyfiant, cwympo coed, plannu coed, draenio, ffensio, pori gydag anifeiliaid neu hyd yn oed llosgi rhywogaethau fel grug.

Cymorth ar gyfer ein cynefinoedd

Efallai y bydd rheolwyr safle’n defnyddio’r dechneg o losgi trwy reoli i helpu’r gweundir i dyfu’n well. Mae llosgi yn rhan o broses adfywio naturiol sy’n helpu rhywogaethau grug i aildyfu.

Efallai y byddan nhw’n chwynnu rhywogaethau anfrodorol fel llysiau’r dial (Japanese knotweed) neu redyn fel y gall rhywogaethau brodorol gystadlu.

Efallai hefyd y byddan nhw’n ailblannu ardal o goetir, er enghraifft, gyda choed brodorol fel ei fod yn fwy o faint. Fe allen nhw annog anifeiliaid bach ac adar i nythu mewn mannau penodol trwy osod blychau nythu.

Controlled burning on the coast to boost biodiversity

Gwarchodaeth

Mae gwarchod cynefinoedd a bioamrywiaeth wedi dod yn fwy a mwy pwysig ers Cynhadledd y Ddaear yn Rio yn 1992, a Natura 2000, pan ymrwymodd arweinwyr y byd i warchod amgylchedd eu gwledydd. O ganlyniad i’r ddau ddigwyddiad hyn (a’r penderfyniadau a ddeilliodd ohonyn nhw)  mae gwledydd wedi gorfod gwneud mwy o ymdrech i fonitro eu bywyd gwyllt a’i warchod.

Mae gwarchod cynefinoedd a bioamrywiaeth wedi dod yn fwy a mwy pwysig ers Cynhadledd y Ddaear yn Rio yn 1992, a Natura 2000, pan ymrwymodd arweinwyr y byd i warchod amgylchedd eu gwledydd. O ganlyniad i’r ddau ddigwyddiad hyn (a’r penderfyniadau a ddeilliodd ohonyn nhw)  mae gwledydd wedi gorfod gwneud mwy o ymdrech i fonitro eu bywyd gwyllt a’i warchod. Yn Ewrop, mae cyfarwyddeb Natura 2000 wedi creu ardaloedd mawr o dirweddau dan warchodaeth o’r enw Ardaloedd Cadwraeth Arbennig neu ACA.

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro 12 Ardal Cadwraeth Arbennig (mae 3 ACA morol yn gorgyffwrdd tua 75% o forlin y Parc ac yn cynnwys tua 60% o’r ardal gyda’r glannau), pum Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA), un Parth Cadwraeth Forol (PCF), saith Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) a 60 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol