Arfordir ar Daith

Mae’r tirwedd o’n cwmpas yn newid, weithiau yn araf deg, weithiau’n gyflym.

Mae natur yn chwarae ei rhan, trwy’r newid yn y tymhorau, newid golau a helynt y tywydd. Mae pobl hefyd yn effeithio ar y tirwedd mewn amryw o ffyrdd.

Helpwch i ni gofnodi’r newidiadau hyn trwy dynnu llun ar un o’n safleoedd ffotograffio sefydlogo a’i rannu gyda ni. Byddwn yn ei ychwanegu i’r delweddau eraill, sydd wedi eu rhannu ac yn creu ffilm treigl-amser i ddangos y newidiadau.

Sut fydd yr arfordir yn edrych heno? Yfory? Wythnos nesaf? Mis nesaf? Yn ystod storm? Ar ôl storm?

Mae’r map Arfordir ar Daith isod yn dangos lleoliadau’r safleoedd. Cliciwch ar yr eicon camera i gael gwybod mwy am y lleoliad hwnnw, y gorffennol a’r presennol. Mae pob un wedi eu dewis yn ofalus er mwyn ein helpu ni i gofnodi gwahanol fathau o newidiadau megis:

  • Erydiad twyni
  • Erydiad clogwyni
  • Newidiadau i lystyfiant
  • Newidiadau lefelau tywod
  • Newidiadau i gefnen gerrig
  • Newidiadau i nentydd cwrs
  • Llifogydd

Map Arfordir ar Daith

Gwyliwch ffilmiau Arfordir ar Daith ar ein ar ein sianel YouTube.


Ffyrdd eraill o gymryd rhan