Prosiect 1,000 diwrnod cyntaf

Sefydlwyd y prosiect 1,000 diwrnod cyntaf mewn ymateb i ymgynghoriad 1000 Diwrnod Senedd Cymru, a ddisgrifiodd tair blynedd gyntaf bywyd plentyn fel “cyfnod o botensial anferth a bregusrwydd enfawr”.

Mae’r prosiect, sy’n cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ceisio cysylltu teuluoedd ifanc â natur a’r awyr agored, gan dynnu sylw at werth mannau gwyllt a chwarae yn yr awyr agored o ran cyfrannu at lesiant plant ifanc a’u teuluoedd.

Mae’r prosiect yn darparu rhaglenni chwarae yn yr awyr agored sy’n seiliedig ar gymdogaethau a mannau agored lleol.  Mae’r ffocws cychwynnol ar gyfer gweithgareddau wedi bod ar ardal Doc Penfro/Penfro, gan gefnogi teuluoedd nad ydynt yn defnyddio mannau agored yn rheolaidd, gan feithrin hyder ac ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael yn eu hardal. Caiff hyn ei ategu gan archwilio a phrofiad o fannau chwarae naturiol ehangach – er enghraifft traeth neu goetir.

Mae’r prosiect hefyd yn cefnogi lleoliadau blynyddoedd cynnar i ddatblygu eu defnydd o’r awyr agored gyda phlant cyn oed ysgol.  Mae’r prosiect 1,000 diwrnod cyntaf wedi gweithio’n agos gyda Thîm Blynyddoedd Cynnar Cyngor Sir Penfro i gefnogi staff a phlant mewn meithrinfeydd ledled Sir Benfro er mwyn gallu defnyddio mannau awyr agored yn fwy effeithiol yn y lleoliadau hyn a’r cyffiniau.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:

  • Chwarae synhwyraidd drwy bridd, tywod, hadau adar a llwch llif
  • Plannu llysiau
  • Paentio â mwd
  • Chwilio am fwystfilod bach
  • Adeiladu cuddfannau
  • Gwneud teclynnau bwydo adar
  • Gweithgareddau tymhorol fel casglu mwyar duon ac afalau.

Ein nod yw rhoi cyfle i rieni ddod at ei gilydd i gael profiadau cadarnhaol yn yr awyr agored i gefnogi plant i ddatblygu sgiliau echddygol, sgiliau lleferydd a chymdeithasol mewn amgylchedd ysgogol diogel.

Pum ffordd at les

Nod cyffredinol y prosiect yw annog teuluoedd i fabwysiadu’r pum ffordd o sicrhau lles yn eu bywydau bob dydd:

  • Cysylltu
  • Cadw’n heini
  • Rhoi
  • Bod yn sylwgar
  • Dal i ddysgu.

Ein nod yw ‘ymgysylltu’ rhieni a phlant ifanc â’r awyr agored, yn enwedig y mannau yn eu cymunedau ac o’u cwmpas. Bydd cit fel welingtons a dillad dal dŵr yn cael eu darparu i’r cyfranogwyr.

Mae tystiolaeth gref o ddiffyg cysylltiad cynyddol â natur a’r amgylchedd awyr agored ar draws cymdeithas. Os gallwn wrthdroi’r duedd hon, lle gwell na dechrau gyda rhieni a phlant ifanc newydd?

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Kelly Davies
Gweithiwr Chwarae Awyr Agored
E-bostiwch kellyd@arfordirpenfro.org.uk