Mae gostyngiad mawr wedi bod mewn poblogaethau ystlumod yn y blynyddoedd diwethaf ac mae llawer o'n hystlumod dan fygythiad a sawl un yn brin iawn. Mae nifer o ffactorau'n gyfrifol am y gostyngiad hyn, gan gynnwys colli safleoedd clwydo a chynefin fforio, a choridorau hedfan yn cael eu darnio.
Mae gan bob math o ystlum hoff fath o glwyd, gan gynnwys adeiladau, eglwysi, ogofau, mwyngloddiau, seleri, ceudyllau mewn coed a phontydd. Mae ystlumod yn bwydo ar bryfed ac yn aml yn dal miloedd bob nos wrth fforio mewn llefydd fel gerddi, coetiroedd, corsydd, pyllau a chaeau traddodiadol.
Mae ystlumod yn magu’n araf deg gan gynhyrchu dim ond un ystlum ifanc bob blwyddyn, neu bob yn ail flwyddyn, gyda’r ystlumod benyw’n ymgynnull mewn clystyrau mamolaeth i roi genedigaeth a magu eu hiliogaeth. Felly gall newidiadau i’w safleoedd magu, o ganlyniad i ddatblygiad, effeithio’n sylweddol ar boblogaeth leol am amser hir iawn.
Mae’r ystlum yn greadur arferiad ac yn dychwelyd i’r un glwyd bob blwyddyn. Felly dyma’r rheswm dros warchod y safleoedd hyn yn gyfreithiol, hyd yn oed os yw’r ystlumod yn absennol. Gwarchodir ein holl ystlumod a’u clwydi’n llawn gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (wedi’i diwygio) a Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.
Ceisiadau Cynllunio ac Arolygon
Dylid ystyried ystlumod yn GYNNAR yn y broses gynllunio i osgoi oedi.
- Dylid gofyn am gyngor gan yr Ecolegydd Cynllunio a gan Cyfoeth Naturiol Cymru os credwch y bydd eich cais yn effeithio ar Rywogaeth a Warchodir gan Ewrop.
- Dylid comisiynu arolygydd ystlumod trwyddedig lleol yn ddigon cynnar – dim ond rhwng Mai a Medi y gellir gwneud rhai arolygon.
- Cofiwch ddarllen adroddiad yr arolwg y nofalus – gallai nodi bod angen gwneud gwaith pellach cyn y gallwch gyflwyno eich cais cynllunio
- Cofiwch sicrhau bod eich pensaer wedi cynnwys yr holl fesurau lliniaru angenrheidiol ar eich darluniau terfynol cyn eu cyflwyno.
Os oes tystiolaeth bendant o glwyd ar / gerllaw’r safle sydd i’w ddatblygu, bydd angen Arolwg Rhywogaeth a Warchodir ar gyfer ystlumod fel rhan o’ch cais cynllunio. Dylid cynnwys yr arolwg fel rhan o gyflwyno eich cais ac ni fydd amod arno.
Yr amser gorau i wneud arolwg yw rhwng Mai ac Awst, ond mewn rhai amgylchiadau prin gellir gwneud arolygon cwmpasu y tu allan i’r misoedd hyn. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â’r Ecolegydd Cynllunio i ofyn am gyngor cyn-gwneud-cais neu ag Arolygydd Ystlumod trwyddedig.
Mae’r rhestr ganlynol yn rhoi manylion Arolygwyr Ystlumod trwyddedig ac Ecolegwyr, ond nid yw eu cynnwys ar y rhestr yn golygu bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn eu cymeradwyo. Rhoddir mwy o ganllawiau ar adroddiadau arolwg yn y Canllawiau Adroddiad Arolwg Ecolegol.
Ystlumod fel nodwedd o Ardal Cadwraeth Arbennig
Mae cynllun rheoli Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Safleoedd Ystlumod Sir Benfro a Llynnoedd Bosherton yn rhetru’r ystlum pedol mwyaf a’r ystlum pedol lleiaf fel nodweddion cymwys. Mae cynllun rheoli ACA Coetiroedd Gogledd Sir Benfro’n rhestru’r ystlum barbastél fel nodwedd gymwys.
Os yw safle datblygu’n agos at, neu’n effeithio’n uniongyrchol ar unrhyw nodwedd o’r ACA, efallai y bydd angen mwy o wybodaeth i asesu effaith y datblygiad ar y rhywogaeth. Am fwy o wybodaeth ewch i Safleoedd a Warchodir neu cysylltwch â’r Ecolegydd Cynllunio.
Trwyddedu
Os oes gennych ddatblygiad neu weithgaredd mewn golwg fydd yn effeithio ar glwyd ystlumod neu unrhyw Rywogaeth arall a Warchodir Gan Ewrop, mae’n debyg y bydd angen trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) arnoch. Os oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, rhaid ei gael cyn i chi gael y drwydded. Unwaith y cewch ganiatâd, cyfrifoldeb yr ymgeisydd wedyn yw gwneud cais am drwydded – rhoddir mwy o fanylion drwy chwilio o dan ‘Trwydded ar gyfer Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop’ ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dylid anfon unrhyw ymholiad am rywogaethau a safleoedd a warchodir at yr Ecolegydd Cynllunio drwy ffonio 01646 624800 neu ebostio dc@pembrokeshirecoast.org.uk.
Mae'n drosedd:
- Dal, cadw, lladd neu anafu ystlum yn fwriadol
- Gwneud difrod neu ddinistrio clwyd ystlumod
- Aflonyddu'n fwriadol ar ystlumod, e.e. mynd i mewn i safle clwydo