Diwylliant a Threftadaeth

Yma yn Sir Benfro mae yna ddiwylliant amrywiol a chyfoethog a luniwyd dros y canrifoedd gan don ar ôl ton o oresgynwyr ac anheddwyr.

Cyn y Goncwest Normanaidd, roedd yr ardal gyfan yn siarad Cymraeg ac yn cael ei rheoli gan benaethiaid Celtaidd.

Darparwyd yr adloniant gan feirdd a deithiai o lys i lys yn adrodd chwedlau. Casglwyd y chwedlau hyn at ei gilydd yn ddiweddarach fel Y Mabinogi.

Yn ystod Oes y Seintiau roedd y sir yn gartref i nifer o ffigurau Cristnogol pwysig, a’r mwyaf nodedig o’u plith oedd Dewi Sant, a ddaeth yn nawdd sant Cymru.

Ar ôl ei farwolaeth, fe ddenai ei gysegr bererinion o bedwar ban byd ac, yn y ddiweddarach, daeth yn safle i Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

St Davids Shrine, St Davids Cathedral, Pembrokeshire, Wales, UK

Creodd y Goncwest Normanaidd rhaniad yn y sir sy’n dal i fodoli heddiw. Gyrrwyd y siaradwyr Cymraeg brodorol i ardaloedd gwylltach y gogledd, tra bod y de wedi’i ailboblogi gan anheddwyr o Fflandrys a Wessex.

Adwaenwyd De Sir Benfro fel Lloegr Fach Tu Hwnt i Gymru, tra daeth ardal fwy gwledig gogledd y sir yn gadarnle i’r iaith Gymraeg ac i ddiwylliant Cymreig, er bod y llinell ieithyddol rhwng y gogledd a’r de yn llawer llai clir erbyn hyn.

Mae’r potiau toddi o ddylanwadau diwylliannol yn cael eu harddangos yn yr enwau lleoedd a welir ar draws Sir Benfro. Yn ogystal â bod yn gartref i lawer o siaradwyr Cymraeg, mae gan y sir hefyd dafodiaith Saesneg Sir Benfro unigryw, a ddechreuodd yn ne’r sir a gellir dal ei glywed heddiw.