Ganed Syr Rhys ym 1449. Wedi marwolaeth ei dad, etifeddodd gyfoeth stadau Dinefwr a phrynodd Gastell Caeriw oddi wrth Edmwnd, ŵyr Syr Nicholas De Carew, ym 1480.

Addawodd i’r Brenin Rhisiart III na laniai Harri Tudur yng Nghymru ond ‘dros fy mola’.

Ond pan laniodd Harri yn Mill Bay ger Dale, Sir Benfro ym 1485, dywedir bod Syr Rhys wedi lleddfu’i gydwybod trwy guddio o dan Bont Mullock wrth i Harri farchogaeth drosti.

O Sir Benfro i Frwydr Bosworth

Yna teithiodd Rhys i Bosworth gan fynd â byddin fawr o Gymry gydag ef. Roedd brwydr Bosworth ar Awst 22 1485 yn drobwynt yn hanes Prydain.

Lladdwyd y Brenin Rhisiart III yn y frwydr, gan Rhys yn ôl y sôn, ac am gefnogi’r achos Tuduraidd cafodd Rhys ei urddo’n farchog a’i benodi’n Llywodraethwr Cymru gan Harri.

I ddathlu, trefnodd Dwrnamaint Mawr i’w gynnal yng Nghastell Caeriw dros bum niwrnod ym mis Ebrill 1507, a daeth 600 o bendefigion yno.

Yn ddiweddarach, cymerodd Rhys ran yn ymosodiad Harri VIII ar Ffrainc ym 1513.

Roedd Harri VII a Harri VIII ill dau’n ymddiried yn llwyr yn Rhys, a deyrnasai dros ei gornel o Gymru fel brenin. Bu farw’n naturiol ym mis Chwefror 1525.

Sir Rhys ap Thomas by early 20th century painter Carey Morris

Darganfyddwch fwy am Gastell Caeriw