Mae Sir Benfro’n gartref i unig Barc Cenedlaethol gwirioneddol arfordirol Prydain, ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o draethau.
Mae gennym fwy o draethau Baner Las ac Arfordir Glas nag unrhyw sir arall yn y wlad. Mae rhai’n hawdd eu cyrraedd ac yn ddelfrydol i deuluoedd, tra bod eraill yn llai hygyrch ac yn cynnig heddwch a llonyddwch.
Ceir cyfleoedd nofio da yn y mwyafrif o draethau ac mae sawl un yn benthyg ei hun i ddigonedd o weithgareddau eraill hefyd, fel chwaraeon dŵr, gêmau traeth, archwilio pyllau glan môr neu hamddena yn yr haul.

Does dim diwedd ar y manteision iechyd sydd i’w cael o’r traeth. Efallai y bydd rhai’n mwynhau rhedeg ar y tywod oer, gwastad pan fydd y llanw’n isel, tra bod eraill wrth eu bodd yn ymlacio ac yn mwynhau’r golygfeydd gwefreiddiol.
Mae’r traeth yn lle gwych i dreulio amser gyda’r teulu, ac mae gêmau traeth, adeiladu cestyll tywod a chwilota yn y pyllau glan môr yn ffyrdd gwych o gadw’n heini a chael ysbrydoliaeth o’r byd o’ch cwmpas.
Waeth beth benderfynwch chi ei wneud ar draethau godidog Sir Benfro, cofiwch fod y traethau hyn hefyd yn gartref i lond lle o fywyd gwyllt arbennig.
Roedd achubwyr bywyd yr RNLI yn bresennol ar y traethau yma yn 2021. Ewch i wefan y RNLI I weld y wybodaeth ddiweddaraf.
- Aberllydan (Broad Haven North)
- Niwgwl (Gogledd a Canolog)
- Llanrath
- Nolton Haven
- Porth Mawr
- Saundersfoot
- Traeth y Castell, Dinbych-y-pysgod
- Traeth y De, Dinbych-y-pysgod
- Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod