Safleoedd a Warchodir

Safleoedd Rhyngwladol Bwysig a Chynllunio

Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) wedi eu dynodi yn Sir Benfro o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd y Comisiwn Ewropeaidd yn y naill achos, a'r Gyfarwyddeb Adar yn yr achos arall fel safleoedd fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i warchod cynefinoedd a rhywogaethau sydd wedi eu hadnabod i fod fwyaf angen eu gwarchod drwy Ewrop.

Mae nifer o ardaloedd ACA wedi eu dynodi yn Sir Benfro a gallai rhai agweddau ar ddatblygiad effeithio ar nodweddion y ACA. Rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol asesu goblygiadau datblygiad ar ACA cyn cymeradwyo unrhyw gynllun neu brosiect, drwy sgrinio’r cynigion datblygu drwy Brawf Effaith Sylweddol Debygol (TLSE). Os yw’r cynigion datblygu’n debygol o gael effaith sylweddol, efallai y bydd angen gwneud Asesiad Priodol.

Lesser Horseshoe Bat

Safleoedd Cenedlaethol Bwysig a Chynllunio

Yn y DU mae safleoedd sy’n genedlaethol bwysig ar gyfer planhigion, anifeiliaid neu oherwydd eu nodweddion daearegol neu ffisiograffig, wedi eu gwarchod yn gyfreithiol fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Yng Nghymru mae 1,019 o safleoedd SoDdGA ac mae’r lleiaf, sef clwyd i ystlumod pedol lleiaf, yn Sir Benfro.

Bydd unrhyw ddatblygiad arfaethedig a allai wneud niwed i safle cenedlaethol neu ranbarthol bwysig, neu bwysig yn lleol, yn cael ei asesu’n ofalus yn unol â chanllawiau polisi cynllunio cenedlaethol. Gwneir hyn i sicrhau bod safleoedd a rhywogaethau sy’n dibynnu ar y safleoedd hyn yn cael eu gwarchod rhag effeithiau andwyol posib o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig.

Map yn dangos y gwahanol ddynodiadau yn Sir Benfro

Cysylltwch â'n Hecolegydd

Dylid anfon unrhyw ymholiad am rywogaethau a safleoedd a warchodir at yr Ecolegydd Cynllunio drwy ffonio 01646 624800 neu ebostio dc@pembrokeshirecoast.org.uk.

Cyngor Cynllunio