Gwybodaeth am fynediad i gŵn: rhannau sy’n hwylus i gŵn.

Ar hyn o bryd, mae angen croesi 24 o gamfeydd ar Lwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro (wedi gostwng o 530 ym 1993). Fel arfer, Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n eu gosod ac yn gofalu amdanyn nhw. Mae clwyd ar gyfer cŵn yn 20 o’r camfeydd hyn.

Pwrpas y math traddodiadol o gamfa neu glwyd yw caniatáu i’r cyhoedd fynd ar y tir. Ond, ar yr un pryd, rhaid eu bod nhw’n cadw ffensys a gwrychoedd y ffermwr yn ddigon cadarn i gadw ei anifeiliaid ar ei dir. Rhaid i gamfeydd a chlwydi ar ffermydd defaid fod yn ddigon cadarn i gadw ŵyn i mewn.

Mae clwydi pwrpasol ar gyfer cŵn wedi cael eu dylunio, fel arfer, i rwystro ŵyn rhag eu defnyddio. Ond efallai na fydd y bwlch yn ddigon mawr i adael i’r cŵn mwyaf fynd trwodd.

Mae polisïau’r gwaith o reoli llwybrau cenedlaethol yn cadw at ysbryd y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Sylfaen y polisi yw Bwlch – Clwyd – Camfa. Pan mae angen newid camfa, rhoi camfa arall yn ei lle yw’r dewis olaf.

Bydd hyn yn digwydd dim ond os yw perchennog y tir yn mynnu cael camfa arall. Yn ôl y gyfraith, mae camfeydd ar lwybr yn ‘cyfyngu’ ar fynediad.

Mae hyn yn golygu mai un o amodau cofrestru neu gwneud llwybr yn llwybr cyhoeddus oedd bod camfeydd yn cael eu cynnal a’u cadw mewn rhai mannau arbennig.

Oherwydd hyn, allwn ni ddim gorfodi perchnogion tir i’w tynnu neu eu haltro. Rhaid i ni fynd trwy broses o drafod.

Weithiau mae’r cyhoedd yn galw am gael gosod camfeydd ar gyfer cŵn. Yn yr achosion hyn, bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ystyried addasu camfa – os oes arian ar gael ac os yw perchennog y tir yn fodlon.

Weithiau mae perchennog tir yn gofyn am glwyd ar gyfer cŵn fel ffordd o atal perchnogion y cŵn rhag difrodi ei ffensys.

Rydyn ni’n awr yn ystyried ffitio clwydi ar gyfer cŵn wrth atgyweirio neu newid unrhyw hen gamfeydd.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n ffitio tua 1 o gamfeydd newydd yn lle hen rai bob blwyddyn, ond mae angen tipyn o amser arnon ni i addasu holl o Lwybr yr Arfordir ar gyfer cŵn.

Yn y mannau lle nad yw camfa’n dal i gael ei defnyddio i bwrpasau amaethyddol, byddwn ni’n cael gwared â hi.

Ond nid yw mynd ati i roi clwyd yn lle pob camfa’n boblogaidd iawn am fod clwydi weithiau’n cael eu gadael neu eu dal ar agor.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ymateb yn gadarnhaol i’r galw am glwydi ar gyfer cŵn. Pan mae arian ar gael, bydd yn dal i fynd ati i addasu camfeydd.

Er bod hawl gan gŵn sy’n cael eu rheoli’n ofalus i grwydro Llwybr yr Arfordir gyda cherddwyr, nid oes pŵer gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i ddarparu ar eu cyfer ac nid yw hynny’n ddyletswydd arno chwaith.

Nid yw’r deddfau priffyrdd yn sôn am hyn chwaith. Mae’n rhesymol tybio y bydd pobl sy’n cerdded ar hyd llwybrau gwledig yn hyderus yng ngallu eu ci i fynd dros gamfeydd neu’n gallu codi’r ci drostyn nhw eu hunain.

Mae’r arian mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru’n ei roi’n mynd i reoli Llwybr yr Arfordir er lles cerddwyr. Mae dyletswyddau a phwerau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnwys hwyluso pethau i gerddwyr yn unig.

Nid yw o raid yn cynnwys eu cŵn. Felly gwario er mwyn gwneud camfeydd yn ddiogel ac yn hwylus i’r cyhoedd eu defnyddio sy’n cael blaenoriaeth.

Dog walkers on the Pembrokeshire Coast Path National Trail near Whitesands

Bod yn gyfrifol wrth fynd â’ch ci ar hyd Llwybr yr Arfordir

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro’n cael amryw o gwynion ynglŷn â chŵn bob blwyddyn.

Gall perchnogion cŵn helpu trwy:

  • Lanhau ar ôl eu ci.
  • Cadw rheolaeth dynn ar gŵn – cadw’r ci ar dennyn yw’r drefn orau. (Bob blwyddyn mae nifer o ddefaid yn cwympo oddi ar y clogwyni am fod cŵn rhydd yn rhedeg ar eu holau. Mae hyn yn amharu ar y berthynas gyda pherchnogion tir ac yn ei gwneud hi’n fwy anodd trafod cyfleoedd newydd ar gyfer mynediad. Mae hawl gan ffermwyr i saethu cŵn sy’n poenydio neu’n rhedeg ar ôl defaid.)
  • Cadw cŵn draw oddi wrth gerddwyr eraill, yn arbennig lle mae’r llwybr yn gul. (Mae llawer o gerddwyr yn drwgdybio cŵn, ac mae cŵn rhydd yn arbennig o annifyr.)

Mae arfordir Penfro yn bwysig iawn i fywyd gwyllt. Pan fydd cŵn yn tarfu, mae’n gwanychu adar sy’n nythu/bwydo ar y tir.

A wnewch chi beidio â gadael i’ch ci hela/erlid creaduriaid gwyllt. Mae’r is-ddeddfau ar gyfer tir mynediad yn dweud ‘dylai unrhyw gŵn fod dan reolaeth iawn, a pharhau i fod dan reolaeth iawn, a chael eu rhwystro’n effeithiol rhag trallodi unrhyw berson a rhag poeni unrhyw anifail neu aderyn neu darfu arnynt’.

Pori ar yr arfordiroedd

Mae nifer o fentrau cadwraeth ar y gweill i gynyddu’r pori ar lethrau’r arfordiroedd. Oherwydd hyn:

  • Efallai fod preiddiau o ddefaid neu reoedd o anifeiliaid eraill fel merlod mewn llefydd nad ydyn nhw wedi bod o’r blaen.
  • Mae gofyn i berchnogion cŵn sylweddoli fod mynd â’u cŵn i gefn gwlad yn gallu creu peryglon nad yw cerddwyr eraill sydd heb gŵn yn eu hwynebu.
  • Gallai cŵn eraill ymladd gyda’ch ci chi. Mae achosion wedi bod lle mae perchnogion wedi cael eu brathu wrth geisio rhwystro cŵn rhag ymladd. Mae mwy o berygl i hyn ddigwydd lle mae’r cŵn yn byw wrth y llwybr (cŵn fferm, er enghraifft).

Defnyddio synnwyr yn ymyl gwartheg

Mae llawer o lwybrau cyhoeddus yn croesi tir ffermio lle mae gwartheg yn pori. Yn wahanol i rai bridiau o deirw, nid yw gwartheg yn cael eu gwahardd rhag bod mewn caeau sydd â llwybrau cyhoeddus yn eu croesi.

Er y gall rhywun deimlo’n ofnus yn ymyl gyrr o wartheg, dim ond chwilfrydedd fel arfer sy’n gwneud iddyn nhw ddod at gerddwyr. Mae achosion wedi bod lle mae gwartheg wedi mynd i banig ac wedi niweidio cerddwyr, yn arbennig rhai oedd â’u cŵn gyda nhw.

Mae ffermwyr yn gwybod yn iawn am y llwybrau cyhoeddus sy’n croesi eu tir ac am yr angen i ofalu nad yw anifeiliaid fferm yn peryglu cerddwyr. Ond mater o synnwyr cyffredin yw bod yn bwyllog yn ymyl unrhyw wartheg y byddwch chi’n dod ar eu traws. Felly mae Cymdeithas y Cerddwyr wedi cyhoeddi’r cyngor sy’n dilyn i helpu cerddwyr sy’n dod ar draws gwartheg:

  • Gan symud yn ofalus ac yn dawel, cerddwch o gwmpas y gwartheg.
  • Byddwch yn arbennig o ofalus mewn sefyllfaoedd lle y gallai’r gwartheg deimlo eich bod chi’n eu ‘gyrru’ i le cyfyng a dim ond trwy ddod yn ôl heibio i chi y gallan nhw ddianc.
  • Peidiwch byth â cherdded rhwng buwch a’i llo.
  • Gadewch bob clwyd fel y cawsoch chi hi.
  • Byddwch yn barod i’r gwartheg ymateb i’ch presenoldeb, yn arbennig os oes ci gyda chi.
  • Cadwch reolaeth ofalus a thynn ar eich ci, ac mae’n well ei gadw ar dennyn.
  • Peidiwch â dal eich gafael ar eich ci os ydych chi’n teimlo bod gwartheg yn eich bygwth – gadewch i’r ci fynd.

Diogelwch Cŵn

Rydyn ni’n gwybod bod 11 ci wedi neidio oddi ar y clogwyni yn 2008, ac y bu farw pedwar. Mae Gwylwyr y Glannau’n awgrymu y dylai unrhyw berchnogion gadw eu cŵn ar dennyn; unwaith fydd ci yn codi trywydd arogl, nid yw’n meddwl am ei ddiogelwch!

Darganfyddwch fwy am Lwybr yr Arfordir