Teithio a Pharcio

CYNGHORION AR GLUDIANT

Gyda threnau i Abergwaun, Hwlffordd a Doc Penfro yn ogystal â gwasanaethau bws a fferi, mae yna opsiynau da sy’n eich galluogi chi i adael eich car gartref.

Fe fydd rhai darparwyr lletyyn eich casglu chi o’r orsaf drenau, felly cofiwch holi pan fyddwch chi’n trefnu llety.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am sut i gyrraedd Sir Benfro ar drafnidiaeth gyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Mynd o gwmpas Sir Benfro gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

Mae gan Sir Benfro amrywiaith o wasanaethau bws, sy’n rhedeg rhwng pob tref yn y sir, chwe diwrnod yr wythnos.

Mae cyrraedd yr arfordir a’r ardaloedd gwledig mwy poblogaidd ar fws yn hawdd, ond cofiwch fod gwasanaethau llai aml i rai lleoliadau gwledig yn ogystal â gwasanaethau cludiant i gefnogi eu hanghenion.

Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro i weld y wybodaeth ac amserlenni bysiau diweddaraf.

Mae’r gwasanaeth trên yn Sir Benfro yn ddolen ddefnyddiol rhwng trefi, ac mae’n siwrnai brydferth i gefn gwlad, yn enwedig ar hyd arfordir y de.

Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru i weld y wybodaeth ac amserlenni trenau diweddaraf.

Minibus driving near the Strumble Head lighthouse

Rhwydwaith Bysiau Arfordirol

Mae Bysiau Arfordirol Sir Benfro yn wasanaethau bws lleol sy’n teithio i fyny ac i lawr morlin y Parc Cenedlaethol, gan sicrhau bod pob modfedd o 186 milltir (299km) Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Maent yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos yn ystod yr haf a gwasanaeth llai yn ystod misoedd y gaeaf.

I ddysgu mwy am y Bysiau Arfordirol a lawrlwytho amserlenni, ewch i wefan Cyngor Sir Penfro, neu codwch gopi o Coast to Coast.

 

Fflecsi Sir Benfro

Mae Fflecsi Sir Benfro yn wasanaeth trafnidiaeth newydd ar alw sy’n gweithredu yng Ngogledd Orllewin Sir Benfro.

Ewch i wefan Fflecsi Sir Benfro i gael rhagor o wybodaeth.

Minibus picking up passengers

Bysiau cwch ym Mhorthstinian

Ers blynyddoedd, defnyddiwyd lleoliad trawiadol Porthstinian fel man cychwyn ar gyfer teithiau cwch i Ynys Dewi, a’r ynysoedd pellach oddi ar y lan.

Nawr, gofynnir i bobl sydd am deithio i’r ynysoedd ddal bws y Gwibiwr Celtaidd o  Dyddewi i Borthstinian, a’n helpu ni i wella trafferthion mynediad yn y lleoliad anghysbell ac annwyl hwn. Hefyd mae rhai gweithredwyr yn darparu eu gwasanaethau bws eu hunain.

Ewch i wefan Traveline Cymru