Yn cuddio yng nghlogwyni Maes Tanio Castellmartin, mae Capel Sant Gofan yn lle gwych i’w archwilio.
Sant Gofan a’r Môr-ladron
Yn ôl y son daeth môr-ladron i Sant Gofan ddwywaith o leiaf – ac mae’r dystiolaeth i’w gweld hyd heddiw.
Amser maith maith yn ôl, yn y 5ed neu 6ed ganrif roedd sant o’r enw Sant Gofan yn byw yn Sir Benfro.
Ysywaeth, un diwrnod pan roedd Sant Gofan yn cerdded ar hyd Arfordir De’r sir, fe’i gwelwyd ac fe’i erlidiwyd gan giang o forladron gwaedlyd.
Yn wyrthiol wrth ei fod yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth y morladron, agorodd hollt yn y clogwyn uwch ei ben a llwyddodd i guddio y tu mewn yn ddiogel.
Roedd yn gymaint o wasgfa iddo yn y lle hwnnw, sut bynnag, hyd yn oed heddiw fe allwch chi weld marciau ei asennau ar y creigiau.
Arhosodd Sant Gofan yn y guddfan hyd nes i’r morladron hwylio i ffwrdd. Yna, yn wyrthiol, agorodd yr hollt yn y graig unwaith yn rhagor.
Ond penderfynodd Sant Gofan yn gyflym mai’r peth gorau iddo ef fyddai parhau i fyw yn y gell honno yn y graig.
Llwyddodd i oroesi trwy fwyta pysgod ffres o’r môr ac yfed dŵr o ffynnon sanctaidd a lifai gerllaw.
Roedd ganddo hefyd gloch hudol a byddai Sant Gofan o hyd yn canu hon, mwy na thebyg i rybuddio unrhyw un arall yn yr ardal, pryd bynnag y byddai’r morladron yn dychwelyd.
Doedd y morladron ddim yn hapus iawn ynglŷn â chloch Sant Gofan ac yn gyfrwys iawn fe lwyddon nhw i’w dwyn.
Sut bynnag, fe wnaed cyfiawnder â’r dynion drygionus hynny pan ddaeth storm enfawr ac yn y storm honno fe suddwyd eu llong.
Daeth angylion wedyn ac adennill y gloch. Wedi iddyn nhw ddod â hi yn ôl at Sant Gofan fe’i gosodwyd hi y tu fewn i graig enfawr fel na fyddai neb yn ei dwyn byth wedyn.
Ar ôl hynny, pryd bynnag y byddai Sant Gofan yn taro’r graig hon ar adegau anodd byddai ei sain yn gan mil fwy na’r gloch wreiddiol.
Os ewch chi lawr i gapel Sant Gofan heddiw fe allwch chi weld ‘craig y gloch’ o hyd.
Yn ôl y chwedl os wnewch chi ddymuniad wrth aros yn hollt y graig fe ddaw’n wir – cyn belled â’ch bod chi ddim yn newid eich meddwl cyn troi o gwmpas.