Darperir sgwteri symudedd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol mewn dau o’i safleoedd a chanolfannau yng Nghastell Caeriw a Phentref Oes Haearn Castell Henllys.
Darperir y sgwteri er mwyn galluogi ymwelwyr â phroblemau symudedd i archwilio’r ardal leol o gwmpas ein canolfannau. Mae hurio’r sgwter yn rhad ac am ddim ond rydyn ni yn gofyn am gyfraniadau i’n helpu ni i dalu am eu cynnal a’u cadw.
Am wybodaeth bellach ynglŷn ag argaeledd sgwteri symudedd defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Castell Caeriw
Rhif Ffôn: 01646 651782
Pentref Oes Haearn Castell Henllys
Mae sgwter symudedd pob-tirwedd ar gael hefyd ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys er mwyn galluogi ymwelwyr â phroblemau symudedd i gael mynediad i’r Pentref Haearn sydd wedi’i ail adeiladu mewn lleoliad ar ben y bryn.
Rhif Ffôn: 01239 891319