Y Broses o Wneud Cais

Dylech holi beth yw'r gwahanol gamau y bydd angen i'ch cais efallai fynd trwyddynt cyn y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud arno. Gwnawn ein gorau i ystyried pob cais cyn gynted â phosib.

Drwy lenwi a chyflwyno Ffurflen Gais a chofio cynnwys y cynlluniau angenrheidiol a’r adroddiadau ategol, gallwn osgoi unrhyw oedi. Cliciwch ar y ddolen i ddarllen canllawiau Llywodraeth Cymru ar beth sydd angen ei gynnwys wrth gyflwyno cais. Gallwch gyflwyno cais ar-lein drwy’r Porth Cynllunio.

Pan fyddwn yn derbyn cais cynllunio, mae’n cael ei wirio gyntaf i sicrhau ei fod yn gyflawn.

Ar ôl ei ddilysu a’i gofrestru, rhaid i’r cais fynd drwy gyfres o gamau gweithdrefn fel a ganlyn:

Ceisiadau Dirprwyedig

Mae Pwyllgor Rheoli Datblygu’r Parc Cenedlaethol wedi dirprwyo pwerau i’r Prif Weithredwr fel bod swyddogion dynodedig yn gallu cymeradwyo neu wrthod rhai mathau o geisiadau cynllunio heb fod angen i’r pwyllgor ystyried y cais.

Mae pwerau dirprwyedig yn gadael i Swyddogion ddelio’n gynt â cheisiadau na phe bai angen i’r cais aros am y cyfarfod pwyllgor nesaf a gynhelir bob 6 wythnos.

Ymgynghori

Mae gennym restr hir o bobl yr ydym yn ymgynghori â nhw ar geisiadau, y rhai yr ymgynghorwn amlaf â nhw’n allanol yw’r cyngor tref neu gymuned, yr awdurdod priffyrdd, Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn fewnol y Swyddog Cadwraeth, y tîm Rheoli Datblygu neu’r Ecolegydd.

Gofynnwn iddynt anfon eu barn atom o fewn 21 diwrnod fel bo’r swyddog sy’n delio â’r cais yn gallu ystyried eu barn wrth baratoi eu hadroddiad.

Cyhoeddusrwydd

Mae’r rhan fwyaf o geisiadau’n cael eu hysbysebu fel bod cymdogion a’r cyhoedd yn gyffredinol yn cael gwybod bod cais wedi’i wneud ac y medrant roi barn fel bo’r swyddog yn gallu ei ystyried cyn gwneud penderfyniad.

Sut i gyflwyno eich barn

Rhoddir cyfnod o 21 diwrnod i unrhyw un ysgrifennu i’r swyddfa’n rhoi eu barn.

Os dymunwch weld y cais yn swyddfa’r Parc Cenedlaethol yn Noc Penfro, dylech naill ai ffonio’r swyddfa ar 01646 624800 neu e-bostio dc@pembrokeshirecoast.org.uk i drefnu apwyntiad i ddod i mewn i weld y ffeil neu drefnu i’w gweld drwy ein gwefan.

Gallwch gyflwyno eich barn drwy ein gwefan, drwy e-bost neu drwy lythyr. Os na allwch gyflwyno barn o fewn yr amser hwn, dylech gysylltu â’r swyddfa i ofyn a fyddai ymateb hwyr yn dderbyniol.

Lle nad yw’r cais yn dod o dan gategori sydd wedi’i ddirprwyo i swyddogion i’w benderfynu, byddwch yn derbyn copi o daflen yn egluro eich hawl i gyflwyno eich barn i’r pwyllgor yn eu cyfarfod.  Gallwch ddarllen copi o’r daflen hon drwy glicio ar y ddolen isod, a gallwch hefyd argraffu ffurflen yn gofyn am gael siarad yn y cyfarfod.

Unwaith y bydd adroddiad y Pwyllgor wedi’i gyhoeddi, bydd ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd.

Photograph of the seaside village of Broad Haven in the Pembrokeshire Coast National Park

Cyfarfod y Pwyllgor

Cynhelir cyfarfodydd bob chwe wythnos.  Mae dyddiadau cyfarfodydd i ddod i’w cael ar y dudalen Papurau Pwyllgor.

Mae cyfarfodydd pwyllgor ar agor i’r cyhoedd ac i’r wasg.

O dan y broses siarad cyhoeddus, gall yr ymgeisydd / asiant, Cynghorydd lleol, aelod o’r Cyngor Tref / Cymuned, un cefnogwr ac un gwrthwynebydd i’r cais cynllunio sy’n cael ei ystyried yn y cyfarfod, annerch y Pwyllgor cyn y bydd yn gwneud penderfyniad

Bydd gan bob aelod o’r pwyllgor gopi o bob adroddiad a baratowyd gan y Swyddogion.

Bydd yr Aelodau yna’n trafod y cais a medrant ofyn cwestiynau, drwy’r Cadeirydd, i gadarnhau unrhyw fanylion.

Bydd pleidlais yna’n cael ei chynnal ar yr argymhelliad. Mae’r pwyllgor yn gallu pleidleisio naill ai o blaid argymhelliad y Swyddog, neu’n gallu gwneud penderfyniad gwahanol a allai arwain at ohirio’r cais.

Wedi’r Cyfarfod

Bydd swyddogion yn paratoi ac anfon allan hysbysiad o benderfyniad ar y cais sydd wedi’i benderfynu.

Mae hawl i apelio yn erbyn amod sydd ar ganiatâd, ac yn erbyn gwrthod caniatâd cynllunio. Wele’r adran ar Apelio ar gyfer y gwahanol fathau o apêl sydd ar gael, a sut i gyflwyno apêl.

Nid oes gan drydydd parti hawl i apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio. Lle mae trydydd parti’n credu bod penderfyniad anghywir wedi’i wneud, medrant wneud cais am Adolygiad Barnwrol o’r achos.

Lle mae cais wedi’i ohirio neu ddirprwyo, bydd llythyr yn cael ei anfon yn gofyn am y newidiadau / wybodaeth angenrheidiol.

Cyngor Cynllunio