I ysgolion ac addysgwyr

Diweddariad 1 Mai 2021: Mae ein rhaglen ysgolion ar agor

Yng ngoleuni’r cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ymweliadau addysgol, rydym yn edrych ymlaen at groesawu ysgolion yn ôl am brofiadau dysgu gwych yn y Parc Cenedlaethol a’n canolfannau yng Nghastell Henllys a Chastell Caeriw.

Mae cyngor Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 30 Ebrill 2021 yn nodi:

“Efallai y bydd ysgolion a lleoliadau am ystyried cynnal ymweliadau dydd domestig lle mae ymweld â lleoliadau y tu allan i ystâd yr ysgol neu leoliad yn rhan annatod o’r profiad dysgu.

“Fel y nodir mewn mannau eraill o fewn y canllaw hwn, mae buddion corfforol, meddyliol ac addysg i sicrhau bod dysgwyr yn treulio cymaint o amser â phosibl yn yr awyr agored ac yn gyffredinol mae’r risg o drosglwyddo COVID-19 yn is yn yr awyr agored o’i gymharu â dan do. Fodd bynnag, mae dal angen dilyn mesurau lliniaru e.e. cynnal pellter cymdeithasol neu defnyddio gorchuddion wyneb lle nad yw hynny’n bosib ac os yn berthnasol, a chynnal hylendid dwylo da, yn yr awyr agored.”

Cysylltwch â’r canolfannau neu’r Tîm Darganfod yn uniongyrchol i drafod trefnu ymweliad addysgol i’ch disgyblion.

  • Tîm Darganfod: 07976945245
  • Castell Caeriw 01646 651782
  • Castell Henllys 01239 891319.

Mae adnoddau i gefnogi Dysgu Awyr Agored ar gael ar wefan Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro.

Cysylltwch â ni

Am fwy o fanylion neu i drefnu’ch ymweliad e-bostiwch ein Parcmon Addysg Tom Bean neu ffoniwch 07976 945245.

Cysylltwch â ni

Am fwy o fanylion neu i drefnu'ch ymweliad e-bostiwch ein Parcmon Addysg Tom Bean neu ffoniwch 07976 945245.