Morloi

Ble i fynd, beth i'w wybod

Mae dyfroedd maethlon Arfordir Penfro’n denu toreth o fywyd gwyllt i’r môr, yr arfordir, y clogwyni a’r awyr uwchben, sy’n golygu mai dyma un o’r mannau gorau yn Ewrop ar gyfer bywyd gwyllt morol.

Mae Morloi wrth eu bodd â Sir Benfro! Ceir tua 5,000 o Forloi Llwydion yn y dyfroedd o amgylch Sir Benfro.

images of seals from seal pup, to juvenile, to adult

Ble a Phryd

Gallwch weld Morloi’n nofio a chwarae yn y dyfroedd o amgylch yr arfordir ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Byddant yn dod i’r lan i fwrw eu blew yn y gaeaf ac ar ddechrau’r gwanwyn, a bydd y benywod yn dod i’r lan i eni eu rhai bach yn ystod yr hydref. Efallai y gwnewch eu gweld â’u rhai bach gwyn fflwffog ar draethau anghysbell o fis Awst i fis Tachwedd.

Mae ynysoedd arfordirol Sgomer a Dewi’n arbennig o boblogaidd gyda’r morloi – caiff rhwng 500 a 700 o rai bach eu geni ar Ynys Dewi bob blwyddyn, sy’n golygu mai dyma’r safle geni morloi llwydion mwyaf yn ne Prydain.

Map of Pembrokeshire showing the best seal watching locations (Cemaes Head, Strumble Head, Ramsey Island and Skomer Island)

Côd Ymddygiad

Caiff Morloi eu hamddiffyn gan y gyfraith. Rydym yn ffodus i gael rhannu’r ardal arbennig yma â nhw.

O’r tir

  • Mae’n well gwylio’r morloi oddi ar lwybr yr arfordir – mae’n ddefnyddiol bod â sbienddrych gyda chi. Cymerwch ofal ar y clogwyni ac yn cadw proffil isel.
  • Cadwch draw o’r traethau ble fo morloi bychain
  • Gall cŵn darfu’n fawr iawn ar y morloi
  • Cadwch mor dawel â phosibl
  • Cadwch draw os y sylwch ar arwyddion bod y morloi’n aflonyddu

O’r dŵr

  • Dylech osgoi glanio ar draethau geni’r morloi bychain neu ar draethau ble fo morloi’n ymlacio
  • Dylech osgoi dod rhwng mam a’i un bach
  • Cadwch gyflymder eich cwch yn araf wrth gyrraedd a gadael y lan, a chofiwch sicrhau mai dim ond un cwch sy’n gwylio’r morloi ar y tro
  • Cadwch o leiaf 20 metr i ffwrdd, ond yn ddelfrydol cadwch 50 metr i ffwrdd
  • Symudwch draw os y sylwch ar unrhyw arwyddion bod y morloi’n aflonyddu
  • Peidiwch â cheisio nofio gyda’r morloi na’u cyffwrdd na’u bwydo

Nodiadau

  • Os oes morlo bychan ar ei ben ei hun ar draeth, fel arfer mae’n golygu bod ei fam yn y dŵr gerllaw. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’n ddigon pell i ffwrdd fel y gall ddod yn ôl at yr un bach pan fydd angen
  • Os y gwelwch forlo sy’n dioddef, galwch yr RSPCA ar 0300 1234 999. Ewch i’n dudalen Bywyd Gwyllt sydd yn sownd neu mewn trafferth am fwy o wybodaeth.

 

Ffeithiau Ffynci

  • Ystyr un trosiad o’r enw gwyddonol yw ‘mochyn môr trwyngrwm’.
  • Mae Morloi’n dda iawn am blymio. Gallant aros o dan y dŵr am hyd at hanner awr, a gallant blymio i lawr i 70 metr.
  • Gall Morloi dreulio 80% o’u hamser o dan y dŵr, a gallant hyd yn oed gysgu yn y dŵr.
  • Maent yn defnyddio eu wisgers i deimlo dirgryniadau llwybrau eu hysglyfaeth.
  • Pam fod morloi’n nofio mewn dŵr halen? Oherwydd bod dŵr pupur yn gwneud iddyn nhw disian