Caiacio a chaniwio

Ffyrdd ffantastig o fwynhau’r Parc Cenedlaethol mewn ffordd gynaliadwy yw canwio a caiacio.

Maen nhw’n golygu eich bod yn gallu cyrraedd yr ogofau, y staciau a’r riffiau ar hyd yr arfordir, a’r cilfachau a’r fflatiau llaid tua’r tir.

Maen nhw’n gyfle gwych i weld adar y môr, morloi a llamhidyddion, rhydwyr yr aber ac adar gwyllt, mewn ffordd gynaliadwy sydd ddim yn tarfu arnyn nhw.

I’r caiaciwr môr profiadol mae yna deithiau estynedig ar hyd yr arfordir ac allan at yr ynysoedd, yn ogystal â’r chyfle i ymarfer eich technegau yn yr unfan, yn ffyrnigrwydd y ffrydiau llanw.

Mae yna gyfleoedd gwych hefyd i gaiacio’r tonnau ar sawl un o stormdraethau Sir Benfro. Mae yna nifer o aelodau Siarter Awyr Agored Sir Benfro yn yr ardal sy’n darparu cyrsiau a theithiau tywys padlo.

Yma yn Sir Benfro, mae rhai o’r golygfeydd arfordirol gorau, heb eu difetha, yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ardal yn gyfoeth o fywyd gwyllt ac wedi cael ei dynodi fel ardal sy’n bwysig yn rhyngwladol ac yn genedlaethol am ei chynefinoedd a’i rhywogaethau morol.

I sicrhau ein bod yn cael cyn lleied o effaith â’ phosib ar yr amgylchedd, mae yna god ymddygiad ar waith ar gyfer caiacio. I gael gwybod mwy ewch i wefannau Cod Morol Sir Benfro a Siarter Awyr Agored Sir Benfro.