Rhywogaethau estron goresgynnol

(INNS)

Gall rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) drechu rhywogaethau brodorol y DU; newid ecosystemau’n ffisegol a difrodi eiddo. Fe all rhai, fel yr efwr enfawr, fod yn niweidiol dros ben i iechyd dynol.

Anaml y bydd trin INNS yn dameidiog yn rhoi sylw i ffynonellau haint, sy’n awgrymu y bydd triniaeth yn gorfod parhau’n ddiderfyn. Nid yw triniaeth yn rhad – amcangyfrifwyd ei bod yn costio £1.7 biliwn y flwyddyn i reoli INNS yn y DU – felly, gwell atal na gwella.

Mae Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn ysgogi newid mewn ecosystemau ac yn cyfrannu at golli bioamrywiaeth. Mae costau rheoli’r rhain yn cynyddu’n sylweddol dros amser os nad ydynt yn cael eu clirio. Gallant hefyd effeithio ar iechyd pobl, achosi difrod i eiddo a strwythurau a helpu i afiechydon ledaenu gan achosi i ecosystemau naturiol ddirywio.

INNS ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Dyma ragor o wybodaeth am dri o’r planhigion estron goresgynnol sydd fwyaf cyffredin yn y Parc Cenedlaethol – rhododendron, clymog Japan, a Jac y neidiwr – ac am brosiect Pwyth mewn Pryd Awdurdod y Parc Cenedlaethol i fynd i’r afael â nhw yng Nghwm Gwaun.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am wybodaeth ychwanegol ar ddeddfwriaeth, cyfrifoldeb a pholisi Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar INNS.

 

Himalayan Balsam Bashing event in the Pembrokeshire Coast National Park

Mynd at Wraidd y Mater

Nabod eich planhigyn
Gall planhigion goresgynnol feddiannu eich pwll neu’ch gardd a niweidio’r amgylchedd.

Dylech atal y lledaenu
Drwy beidio â symud planhigion y pwll o gwmpas.

Compostiwch yn ofalus
Peidiwch â chael gwared â phlanhigion dyfrol yn y gwyllt – gallwch chi fod yn torri’r gyfraith.

Removing Rhododendron ponticum at Trecwn, Pembrokeshire, Wales, UK

Edrychwch, Glanhewch, Sychwch

Edrychwch ar eich cyfarpar a’ch dillad i weld a oes organebau byw arnyn nhw — yn arbennig felly, mewn mannau sy’n wlyb neu’n anodd eu harchwilio.

Glanhewch a golchwch yr holl gyfarpar, esgidiau a dillad yn drylwyr. Os ydych chi’n gweld unrhyw organebau, gadewch nhw wrth y dŵr lle gwelsoch chi nhw.

Sychwch yr holl gyfarpar a’r dillad – gall rhai rhywogaethau fyw am nifer o ddyddiau mewn amodau llaith.Sicrhewch nad ydych chi’n trosglwyddo’r dŵr i unrhyw fan arall.

Darganfyddwch fwy am INNS yn y Parc Cenedlaethol