Gwydnwch Ecolegol

Er mwyn atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bywyd gwyllt a’r niferoedd a gollir, mae angen i ni roi’r gorau i wneud y pethau sydd wedi dinistrio’r cynefinoedd yn y lle cyntaf, a dechrau gwneud pethau a fydd yn eu hadfer yn raddol.

Rhaid i ni barhau i warchod y cynefinoedd sy’n weddill a’r rhywogaethau y maen nhw’n eu cynnal, sy’n golygu cynnig ystod eang o wasanaethau i dirfeddianwyr, yn amrywio o gyngor ac arweiniad i grantiau a chymorth ymarferol yn rhad ac am ddim (Cynllun Gwarchod y Parc, Rhwydwaith Pori Sir Benfro). Rhaid i ni hefyd ddechrau datblygu tirweddau sy’n fwy ecolegol gadarn trwy wella amodau i fywyd gwyllt ar dir a reolir yn ddwys.

Byddai’r math yma o newid yn datblygu cadernid yn y cefn gwlad ehangach i gynnal rhywogaethau ar unwaith – y cefn gwlad ehangach fyddai’r coridor bywyd gwyllt. Y rheswm ein bod wedi colli gymaint o rywogaethau yn y lle cyntaf yw oherwydd bod y cefn gwlad ehangach yn cael ei reoli mor ddwys.

Mae glaswelltir wedi’i wella (yn amaethyddol) yn nodweddiadol o gefn gwlad iseldir Cymru heddiw. Maen nhw’n cael eu defnyddio i bori gwartheg cig eidion a gwartheg godro a defaid, ac yn aml iawn mae’n bosibl eu torri ar gyfer silwair 2 neu 3 gwaith y flwyddyn. Ychwanegir gwrtaith at y gwellt glas (llecyn o wair byr) i helpu annog twf gwair ffrwythlon. Bydd cae fel hwn fel rheol yn cynnwys un neu ddau fath o laswellt, ac efallai dau neu dri math arall o blanhigyn fel y feillionen wen a’r heboglys torllwyd.

Ychydig iawn o bryfed, adar neu famaliaid fydd yn gallu byw mewn glaswelltiroedd fel hyn. Dyma hanfod y rhan fwyaf o gefn gwlad y Parc Cenedlaethol, felly a yw’n syndod bod poblogaethau rhywogaethau wedi dirywio yn y cefn gwlad ehangach?

Mae dôlau gwair yn llawn rhywogaethau. Arferai cefn gwlad Cymru fod yn llawn glaswelltiroedd fel hyn yn bennaf, ond ni welir rhyw lawer ohonyn nhw erbyn hyn. Arferai ffermwyr bori’r dolydd hyn â gwartheg, merlod a defaid dros fisoedd y gaeaf, a thorri’r glaswelltir ar gyfer gwair yn yr haf. Fel rheol bydd cae fel hwn yn cynnwys chwech neu saith math o laswellt ac efallai 12 i 15 math o blanhigion eraill. Bydd adar fel yr ehedydd a chorhedydd y waun, a nifer o bryfed a mamaliaid bach amrywiol yn bridio yno. Bydd adar ysglyfaethus (fel y cudyll coch a’r dylluan wen) ac ystlumod yn hela uwchben.

Southern Marsh Orchid, Pembrokeshire Coast National Park, Wales, UK

Pam ydyn ni wedi symud o’r naill i’r llall?

Mae’r broses o wella caeau tir fferm i ddarparu mwy o laswellt, fel y gellid magu mwy o dda byw ar y tir, wedi digwydd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig dros y 60 mlynedd diwethaf. Mae wedi digwydd oherwydd bod llywodraethau dros y byd i gyd wedi annog ffermwyr, trwy gymorthdaliadau, i gynhyrchu mwy o fwyd nag erioed o’r blaen. Felly rydyn ni wedi colli ein dolydd gwair a’n porfeydd gwlyb a’r holl fywyd gwyllt (neu fioamrywiaeth) yr oedden nhw’n eu cynnal.

Yr unig beth sydd gennym ni ar ôl yw ychydig o safleoedd bach anghysbell lle mae poblogaethau rhywogaethau yn agored i niwed.

Felly pam y mae ffermwyr yn rheoli eu/ein glaswelltiroedd fel hyn?

Ar hyn o bryd, mae gennym ni system ffermio (y mae’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn dylanwadu arni’n fawr) sy’n golygu ei bod yn economaidd anhyfyw i’r rhan fwyaf o ffermwyr reoli eu glaswelltiroedd fel dolydd gwair llawn rhywogaethau. Mae angen i lywodraethau cenedlaethol ddiwygio’r system hon fel bod bwyd a gynhyrchir o dir fferm llawn rhywogaethau’n dod ag incwm da i ffermwyr. Bydd hyn wedyn yn eu hannog i gynhyrchu ein bwyd fel hyn. Ni fydd yn digwydd nes bydd ein ffermwyr yn cael help llaw i gynhyrchu ein bwyd mewn ffordd sydd o fudd i’n bywyd gwyllt, ac ni fydd newid yn yr hinsawdd ond yn gwaethygu sefyllfa sydd eisoes yn ddifrifol.

Mae angen i bob un ohonom ni annog marchnadoedd am fwyd a gynhyrchir yn lleol ac sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Mae bwyd a gynhyrchir fel hyn yn dda i fywyd gwyllt ac yn ardderchog i bobl.

Ty Canol woods

Coetiroedd

Mae ansawdd bywyd gwyllt a thirwedd ein coetiroedd brodorol wedi dirywio’n sylweddol dros y 80 mlynedd diwethaf. Mae marchnadoedd pren, yn enwedig am niferoedd isel o goed caled dimensiwn bach, wedi diflannu bron iawn dros y degawdau diwethaf. Felly, ag ychydig iawn o gymhelliant i berchnogion coetiroedd preifat reoli eu coetiroedd, fe welwyd dirywiad yng ngwerth economaidd a bywyd gwyllt nifer o goetiroedd llydanddail. Mae’r buddion eraill o reoli coetiroedd mewn ffordd draddodiadol yn cynnwys mwyniant a mwynhad y gymuned ac ymwelwyr, annog diwydiannau eilaidd a diogelu nodweddion hanesyddol.

Mae APC yn ysu am gael gweld ein coetiroedd brodorol yn parhau i gael statws cadwraeth ffafriol – sy’n gofyn am gylch cynaliadwy o adfywio a rheoli sensitif. Byddai cylch cynaliadwy’n cyflenwi diwydiant pren ffyniannus gan ddefnyddio coed caled lleol mewn cadwyn ddidoriad o’r coetir i brosesu coed a chynhyrchu cynnyrch pren.

Dyna pam y mae APC wedi buddsoddi gymaint o ynni, brwdfrydedd ac adnoddau at adfywio diwydiant coed Sir Benfro, ac yn arwain at fwy o goetiroedd brodorol yn ein tirwedd, sef coetiroedd sy’n cael eu rheoli’n well.

Dysgwch fwy am Gadwraeth yn y Parc Cenedlaethol