Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.arfordirpenfro.cymru/. Mae’r wefan yn cael ei rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl ag sy'n bosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu, dylech chi allu:

  • newid y lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 200% a bod y testun i gyd yn dal i ffitio ar y sgrin
  • gweld y porwr mewn fformat un golofn (lled y porwr yn 1280px a chwyddo i 400%)
  • symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml, ac mor hawdd i’w ddeall ag sy’n bosib.

Hygyrchedd

Rydyn ni’n ymwybodol nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni fydd y testun yn ail-lifo i un golofn heb golli cynnwys pan fyddwch chi’n newid maint ffenestr y porwr
  • efallai nad yw’r berthynas rhwng rhannau o’r cynnwys yn glir
  • nid oes gan rai elfennau enw hygyrch
  • nid oedd trefn ffocws yr elfennau rhyngweithiol bob amser yn rhesymegol
  • roedd rhai elfennau wedi cael eu haddasu mewn ffordd nad oedd yn hygyrch i ddefnyddwyr technolegau cynorthwyol
  • nid yw lliw’r testun yn bodloni’r cymarebau cyferbynnedd gofynnol mewn rhai rhannau o’r wefan.

Gwybodaeth gyswllt ac adborth

Rydym ni bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu nodi ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Awdurdod ar gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk.

Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni ar:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn pedwar diwrnod gwaith.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfio

Mae’r wefan yma yn cydymffurfio’n rhannol gyda Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 safon AA o ganlyniad i’r diffyg cydymffurfiaeth ac eithriadau wedi’u rhestru isod.

Diffyg cydymffurfiad â rheoliadau hygyrchedd

Mae’r cynnwys sy’n cael ei restru isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol:

Lliw

Nid yw’r cyferbynnedd lliw rhwng lliwiau’r blaendir a’r cefndir yn bodloni’r cymarebau disgwyliedig. Mae hyn yn golygu y gall fod yn anodd i ddefnyddwyr sydd â golwg gwan a diffygion lliw ddarllen rhywfaint o’r cynnwys. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm) (Lefel AA) ac 1.4.6 Cyferbyniad (Uwch) (Lefel AAA) a gellir dod o hyd iddo ar y testun yn y blwch ar gyfer ‘O Lan i Lan’ ar y dudalen ddysgu a’r ddolen ar gyfer y datganiad hygyrchedd ar dudalen y Datganiad Hygyrchedd.

Rydym ni’n bwriadu sicrhau bod yr holl gymarebau cyferbynnedd lliw yn cael eu diwygio erbyn mis Medi 2024 i fodloni’r cymarebau cyferbynnedd sy’n ofynnol ar gyfer AA o leiaf. Pan fyddwn ni’n cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn ni’n sicrhau bod ein defnydd o gymarebau cyferbynnedd lliw yn bodloni’r safonau hygyrchedd.

PDFs a dogfennau eraill

Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael gafael ar ein gwasanaethau, yn ogystal â ffurflenni sy’n cael eu cyhoeddi ar ffurf dogfennau Word.

Rydyn ni’n ymwybodol nad yw rhai dogfennau PDF a Word ar ein gwefan yn gwbl hygyrch:

• Nid yw’r dogfennau mae dolenni iddynt yn darparu testun amgen ar gyfer delweddau, gan effeithio ar ddefnyddwyr technolegau cynorthwyol 1.1.1: Cynnwys nad yw’n destun (Isafswm) (Lefel A)
• Mae nodau tudalen ar goll, sy’n gwneud llywio’n heriol i ddefnyddwyr ag anableddau 2.4.5: Mwy nag un ffordd (Uwch) (Lefel AA)
• Nid oes gan ddelweddau addurniadol farciau priodol i dechnolegau cynorthwyol eu hanwybyddu, sy’n arwain at dynnu sylw defnyddwyr yn ddiangen. 1.1.1: Cynnwys nad yw’n destun (Isafswm) (Lefel A)
• Mae trefn ddarllen elfennau fel penynnau a throedynnau yn anghyson, gan achosi dryswch i ddefnyddwyr darllenydd sgrin 1.3.2: Dilyniant Ystyrlon (Isafswm) (Lefel A)
• Mae manylebau iaith naturiol ar goll, sy’n rhwystro defnyddwyr rhag cael gafael ar gynnwys mewn gwahanol ieithoedd 3.1.1: Iaith y Dudalen (Isafswm) (Lefel A)
• Mae teitl y ddogfen yn absennol, sy’n ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr adnabod a llywio i dudalennau penodol 2.4.2: Teitl y Dudalen (Isafswm) (Lefel A)
• Dim ond yn rhannol y gweithredir y drefn ddarllen a thabiau gywir, gan achosi anawsterau wrth lywio drwy gynnwys 1.3.2: Dilyniant Ystyrlon (Isafswm) (Lefel A)
• Does dim cysondeb yn y lefelau pennawd, gan effeithio ar drefn y cynnwys a dealltwriaeth ohono 1.3.1: Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Isafswm) (Lefel A)
• Nid yw elfennau tabl yn cynnwys teitlau rhesi a cholofnau, sy’n ei gwneud yn heriol i ddefnyddwyr ddeall cyd-destun cofnodion tabl 1.3.1: Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Isafswm) (Lefel A).

Erbyn mis Medi 2024, rydym ni’n bwriadu trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Baich anghymesur

Dim ar hyn o bryd.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn mynnu ein bod yn trwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, dydyn ni ddim yn bwriadu trwsio dogfennau a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd y byddwn ni’n eu cyhoeddi yn bodloni’r safonau hygyrchedd.

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gwneud y canlynol i wella hygyrchedd:

Cynnal adolygiad o’n holl gynnwys cyhoeddedig i nodi meysydd lle gallwn ni newid cynnwys o fod mewn dogfennau PDF neu Word i dudalennau HTML. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Medi 2024.

Rydym ni wedi comisiynu’r Ganolfan Hygyrchedd Digidol i gynnal archwiliad o’n gwefan ym mis Chwefror a Mawrth 2024 i nodi rhannau o’n gwefan sydd ddim yn bodloni’r gofynion hygyrchedd er mwyn i ni allu eu trwsio. Ein nod yw datrys y materion a nodwyd yn yr archwiliad hwn erbyn mis Medi 2024.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 13 Mawrth 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 26 Hydref 2023 yn erbyn safon AA WCAG 2.1. Cynhaliwyd y prawf gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth.  Rydym ni wedi ymgorffori’r elfennau o’r adroddiad a gawsom ni gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth.

Dyma’r tudalennau a brofwyd:

  • Yr Hafan:

https://www.arfordirpenfro.cymru/

  • Y dudalen Cysylltu â Ni:

https://www.arfordirpenfro.cymru/cysylltu-a-ni/

  • Y dudalen Mwynhau ein Parc Cenedlaethol:

https://www.arfordirpenfro.cymru/mwynhau/

  • Y dudalen Dysgu:

https://www.arfordirpenfro.cymru/dysgu/

  • Y Datganiad Hygyrchedd:

https://www.arfordirpenfro.cymru/datganiad-hygyrchedd/

 

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn y prawf hygyrchedd yma.