Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn bartner yn Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS).
Nod Ysgol Awyr Agored Sir Benfro yw annog plant i ymgysylltu’n llawn â’u hamgylchedd lleol, a bod yn gwbl hyderus yn yr amgylchedd hwnnw.
Drwy ymweliadau rheolaidd â’u mannau awyr agored lleol, mae’r plant yn datblygu ymdeimlad cryf o lesiant ac yn mwynhau gweithgarwch corfforol.
Wedi ei ddatblygu o Gymuned Ddysgu Broffesiynol yn 2010, mae PODS wedi tyfu i fod yn bartneriaeth ddeinamig, gan ddod â phrofiad ac arbenigedd ynghyd o amrywiaeth eang o blith sefydliadau arbenigol, penaethiaid ac ymgynghorwyr Awdurdodau Lleol.
More information
- Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS).