Roedd y bobl a oedd yn byw yng Nghastell Henllys dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl yn rheoli’r tir mewn ffordd rydyn ni’n ei galw heddiw’n ‘gynaliadwy’. Roedd eu ffordd hunangynhaliol o fyw’n hanfodol er mwyn iddynt allu goroesi.

Roedd y tir o amgylch Castell Henllys yn cael ei reoli’n dda drwy fondocio coetir, tyfu cnydau a phori â da byw. Byddai’r bobl yn cymryd beth bynnag roedd arnynt ei angen – dim mwy – a byddent yn ailstocio i wneud iawn am beth bynnag roeddent wedi’i ddefnyddio.

Byddai tirwedd yr Oes Haearn wedi bod yn llawn bywyd gwyllt ac mae tystiolaeth o hyn i’w weld o hyd yn y dyffrynnoedd a’r coed sydd o amgylch Castell Henllys heddiw.

Dysgu gwersi ein cyndadau

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol, a ffermwyr lleol, yn dal i ofalu am y tir mewn ffordd sydd o fudd i’r anifeiliaid a’r planhigion sy’n byw yma.

Yn union fel rydym yn ceisio rheoli’r tir yn yr un ffordd i raddau helaeth, gallwn ddysgu gwersi o’r gorffennol ynglŷn â sut i ddod o hyd i ddeunyddiau a chodi adeiladau.

Mae ein Canolfan Ymwelwyr yn seiliedig ar dai crynion hynafol y Celtiaid a chafodd ei hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau lleol a thechnolegau cynaliadwy.

Adeiladwyd y Ganolfan Ymwelwyr yn 1994 gan ddefnyddio pren lleol heb ei drin.

Yr adeilad hwn oedd un o’r adeiladau modern cynaliadwy cyntaf yn Sir Benfro ac mae rhagor o nodweddion cynaliadwy wedi cael eu hychwanegu, gan gynnwys bwyler biomas.

Visitor Centre, Gift Shop and Café Building at Castell Henllys Iron Age Village