Mynediad a Hawliau Tramwy

Felly i ble allwch chi fynd? Wel, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad at yr holl ddarnau gorau, ac felly mae 950 km o’r rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael i chi ei archwilio.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gyfrifol am reoli Llwybr Arfordir Sir Benfro, un o 15 Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Mae Llwybr yr Arfordir yn ymlwybro o amgylch 186 milltir (299km) o rai o’r golygfeydd arfordirol gorau ym Mhrydain.

Mae’n golygu llawer o waith cynnal a chadw, ond diolch i waith caled Parcmyn y Parc Cenedlaethol a’r Wardeiniaid, Llwybr Arfordir Sir Benfro yw un o’r atyniadau mwyaf yn y gornel fach hon o Gymru.

Cynnal a Chadw Llwybr Arfordir Penfro

Llwybr yr Arfordir oedd llwybr pellter hir cyntaf Cymru, ac fe agorodd ym 1970. Mae’n cael ei gynnal a’i gadw gan ein Parcmyn a’n Wardeiniaid sy’n gweithio’n galed iawn, gyda nawdd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Yn unol ag ail ddiben statudol yr Awdurdod, sef darparu cyfleoedd i bobl fwynhau’r Parc Cenedlaethol, mae rheoli cyfleoedd ar gyfer mynediad y cyhoedd at gefn gwlad yn rhan bwysig o’n gwaith.

Yn anffodus, mae rhai hawliau tramwy cyhoeddus yn Sir Benfro wedi cael eu hesgeuluso o ganlyniad i ddiffyg defnydd a chynnal a chadw ers eu cofrestru yn gyntaf yn y 1950au. Y llwybrau hyn yw’r ffordd orau o archwilio cefn gwlad, a’i fwynhau, ac felly mae Awdurdod y Parc wedi blaenoriaethu gwelliannau ar gyfer hawliau tramwy cyhoeddus.

Nartional Park Authority Warden cutting vegetation on the Pembrokeshire Coast Path

Beth sydd ar y gweill erbyn hyn?

Bob blwyddyn, rydyn ni’n cynnal rhaglen o welliannau i adfer llwybrau ble mae yna rwystrau, at ddefnydd y cyhoedd, ac yn parhau i wella safon y rhwydwaith ar y cyfan. Nodwedd o’n gwaith yw gwell arwyddion a marcio’r ffordd, gwaith ar arwynebau a gwaith draenio a gosod giatiau yn lle sticlau fel bod mynediad haws i gerddwyr.

Ers ymgymryd â’r cyfrifoldeb o gynnal a chadw hawliau tramwy cyhoeddus ym 1997, rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol ac, yn raddol, rydyn ni’n datblygu rhwydwaith o lwybrau o safon a fydd yn ategu at Lwybr yr Arfordir.

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol