Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn croesawu ac annog trafodaeth gynnar cyn i ddarpar ddatblygwr neu dirfeddiannwr gyflwyno cais cynllunio ffurfiol i'w ystyried. Bydd y trafodaethau hyn yn rhoi syniad i ymgeiswyr o'r math o wybodaeth sydd ei angen i gefnogi cais a hefyd yn rhoi barn y Swyddog Cynllunio am ba mor debygol y bydd o lwyddo.
Mae’r Awdurdod yn cynnal Cymhorthfa Gynllunio wythnosol i geisio ateb ymholiadau cynllunio cyffredinol, gan roi cyfle i’r cyhoedd siarad â Swyddog Cynllun cyn cyflwyno ffurflen cyn-gwneud-cais neu gais ffurfiol. Gall y Swyddog Cynllunio hefyd roi cyngor ar y broses ei hun. Cofiwch nad yw apwyntiad gyda’r Gymhorthfa Gynllunio’n rhoi cyngor ar gynlluniau penodol. E-bostiwch neu ffoniwch ni ar 01646 624800 i wneud apwyntiad.
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn bod pob awdurdod cynllunio’n darparu gwasanaeth cyn-gwneud-cais statudol a bod ffi’n cael ei thalu. Mae manylion llawn am Wasanaeth Cyn-Gwneud-Cais statudol Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar gael drwy lawrlwytho ein dogfen Canllawiau Cynllunio Cyn-ymgeisio (Rheoli Datblygu).
Mae cyngor cyn-gwneud-cais ar gael drwy lenwi ffurflen cyn-gwneud-cais – gallwch naill ai ei llenwi ar gyfrifiadur neu â llaw. Bydd yr Awdurdod yn ceisio rhoi ymateb ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod neu amser arall y bydd efallai’n cael ei gytuno â’r ymgeisydd.

Pa gyngor fydd yn cael ei roi?
Dylai ymgeisydd sy’n cyflwyno cais datblygu fel deiliad tŷ ddisgwyl derbyn y wybodaeth ganlynol o leiaf yn eu hymateb ysgrifenedig:
- Hanes cynllunio perthnasol y safle
- Y polisïau perthnasol yn y cynllun datblygu y bydd y cynnig datblygu’n cael ei asesu yn eu herbyn
- Canllawiau cynllunio atodol perthnasol
- Unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill
- Asesiad cychwynnol o’r datblygiad sydd mewn golwg, ar sail y wybodaeth uchod.
Ar gyfer pob cynnig datblygu arall, dylai ymgeiswyr dderbyn yr holl wybodaeth uchod a hefyd a yw’n debygol y gofynnir am gyfraniad o dan Adran 106 neu’r Lefi Seilwaith Cymunedol ynghyd â syniad o faint a sgôp y cyfraniadau hyn.