Abergwaun

Pembrokeshire: Land of Legends

A hithau bellach yn borthladd ac yn borth pwysig i Sir Benfro, tref Abergwaun oedd safle ‘Goresgyniad Olaf Prydain’ dros 200 mlynedd yn ôl.

​​Y Goresgyniad Olaf

Stori am sut bu i un fenyw leol gyda phicwarch yn ei llaw achub Abergwaun ar ei phen ei hun bach rhag ymosodiad gan Ffrancwyr.

Mwy na 200 mlynedd yn ôl, adeg y Chwyldro Ffrengig, tra roedd Napolean Bonaparte yn brysur yn gorchfygu canolbarth Ewrop, penderfynodd llywodraeth Ffrainc y gallen nhw hefyd orchfygu rhywfaint yn nes adref.

Felly fe benderfynon nhw ar gynllun cyfrwys! Heb wybod llawer am deimladau Prydeinig ar y pryd, fe gredon nhw y byddai pobol dlawd gwlad Prydain yn falch o groesawu eu rhyddhawyr Ffrengig.

Sut bynnag weithiodd pethau ddim yn hollol yn ôl y cynllun. Ym mis Chwefror 1797, hwyliodd pedair llong rhyfel o Ffrainc. Eu bwriad oedd glanio ym Mryste. Yn hytrach, chwythodd gwyntoedd Cymru hwy i ddyfroedd cysgodol Bae Abergwaun lle glanion nhw ger Llanwnda, wedi’u dychryn gan danio’r canon.

Dadlwythwyd dynion, arfau a  phowdr gwn, a dechreuodd y goresgyniad olaf ar Brydain. Roedd y dynion serch hynny yn glwstwr o rai afreolus, gyda nifer o rai newydd eu rhyddhau o garchar yn eu plith.

Ar ôl prin ddechrau ar eu cenhadaeth fe anghofion nhw amdano ac yn hytrach dechrau ymosod ar ffermydd lleol, gan lenwi’u boliau â bwyd lleol a meddwi ar gwrw a gwin.

Yn y cyfamser, yn Abergwaun gerllaw, fe glywodd menyw fawr a gwydn o’r enw Jemeima Nicholas, gwraig y cobler lleol, am y goresgyniad ac fe’i chythruddwyd!

Ar unwaith, penderfynodd gymryd materion i’w dwylo ei hun a gorymdeithiodd i Lanwnda wedi’i harfogi gan bicfforch yn unig. Ar ei phen ei hun, cipiodd 12 o filwyr Ffrainc, a’u harwain yn ôl i Abergwaun a’u cloi y tu mewn i eglwys y Santes Fair cyn gorymdeithio yn ôl i chwilio am ragor!

Roedd Jemeima Nicholas, neu Jemeima Fawr fel y’i gelwid, wedi ennill lle iddi’i hun yn hanes.

Edrychwch am y garreg goffa a godwyd yn 1897 ger y fynedfa i fynwent y Santes Fair yn Abergwaun, a’r cerflun o bren yng nghoedwig Maenordy Scolton.

Darganfyddwch fwy o chwedlau Sir Benfro