Gwirfoddoli

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn awyddus i annog pobl i gymryd rhan mewn sawl agwedd ar ei waith, ac mae nifer o resymau pam fod pobl yn penderfynu gwirfoddoli.

Mae rhai yn gwirfoddoli i gadw’n heini ac yn brysur, rhai i ddysgu a datblygu sgiliau newydd a rhai i roi rhywbeth yn ôl i’r Parc Cenedlaethol ac i’w cymunedau lleol.

Mae pobl eraill yn gwirfoddoli i wella eu hiechyd neu i fynd allan a chyfarfod pobl newydd a bod yn aelod o dîm.

Beth bynnag fo rhesymau pobl dros wirfoddoli yn y Parc Cenedlaethol, maen nhw’n credu ei fod yn hwyl, yn heriol ac yn werthfawr.

Cysylltu â Ni