Cartrefi Solar Fforddiadwy
Mae £47,000 o gyllid y Gronfa Datblygu Cynaliadwy wedi helpu Western Solar Cyf i ddylunio ac adeiladu'r prototeip gweithio hwn o eco-gartref fforddiadwy; h.y. cartref tair ystafell wely, a adeiladwyd yn gyfan gwbl allan o bren Cymreig, sy'n gallu cynhyrchu digon o drydan solar i fodloni pob un o'i ofynion ynni ei hun ac yn gallu storio neu allforio unrhyw drydan dros ben a gynhyrchir ar gyfer creu incwm.
Beth oedd y prosiect yn anelu at ei gyflawni?
- Datblygu tai fforddiadwy dwysedd isel a microgynhyrchu mewn uned integredig.
- Datblygu eco-gartref gyda Chod ar gyfer graddio Cartrefi Cynaliadwy sy’n bedwar man lleiaf neu (yn well fyth) pump.
- Dod o hyd i 80% o ddeunyddiau ac arbenigedd yng Nghymru.
- Creu cadwyni cyflenwi, cyflogaeth leol a chyfleoedd hyfforddi.
- Hyrwyddo defnyddio pren meddal brodorol Cymru at ddibenion adeiladu.
- Newid y canfyddiad ac ymwybyddiaeth o gartrefi a adeiladwyd o bren.
Sut y cafodd y Tŷ Solar ei drosglwyddo?
Mae’r prototeip wedi llwyddo i ddangos ei bod yn bosibl i adeiladu tŷ o bren meddal Cymreig brodorol; pren mewn gwirionedd o Gwm Gwaun.
Er bod y prototeip wedi’i adeiladu o dan blastig ar safle Western Solar yn Rhosygilwen, y cynllun yn y dyfodol, er mwyn lleihau amser adeiladu a chostau, yw y bydd modiwlau neu gydrannau yn cael eu gwneud oddi ar y safle mewn ffatri leol a sefydlwyd yn benodol ar gyfer y diben.
Pren o Gymru oedd wedi’i ddefnyddio hefyd i wneud fframiau’r ffenestri, sydd, ynghyd â’r unedau gwydr sydd i safon Passive Haus yr Almaen, wedi’u gwneud gan gwmni gwaith coed yn Sir Benfro.
Mae un ar ddeg modfedd o inswleiddio seliwlos a wnaed o bapur newydd wedi’i ailgylchu yn sicrhau bod y waliau yn cael eu hinswleiddio’n dda, ac mae’r croen anadladwy hefyd yn cael ei wneud yng Nghymru.
O’r llun uchod sy’n dangos y gwaith o adeiladu’r ail lawr gellwch weld y to ar oleddf, ac ar ben y to mae paneli to ffotofoltäig integredig 8kW. Mae’r paneli hyn yn gostwng y biliau ynni blynyddol net i ddim, ac yn dangos ei bod yn bosibl cynhyrchu tua £650 o incwm net i’r cartref. Hefyd mae’n bosibl i’r ynni dros ben a gynhyrchir gael ei storio mewn batris a allai gyfrannu at sicrwydd ynni mewn ardaloedd gwledig mwy anghysbell.
Ar y cyfan, mae’r tŷ deulawr 100 m2 a adeiladwyd o bren o Gymru, sy’n cynnwys tair ystafell wely, dwy ystafell ymolchi, ond yn defnyddio 12% o’r ynni y byddai tŷ a adeiladwyd drwy ddulliau confensiynol o faint cyfatebol yn ei ddefnyddio!
Mae’r tŷ wedi llwyddo i gael lefel pump yn y Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy.
Ond, nid yn unig y mae’r prototeip yn dangos y manteision amgylcheddol o ddefnyddio deunyddiau naturiol lleol ac effeithlonrwydd ynni uchel sy’n golygu llai o allyriadau CO2, mae hefyd wedi dangos manteision cymdeithasol ac economaidd yn ogystal.
Mae’r tŷ wedi’i adeiladu i fynd i’r afael â diffyg yn y sector tai fforddiadwy; mae’n costi cyn lleied â £75,000 i brynu (ac eithrio llain adeiladu) felly nid yn unig y mae’n economaidd i fyw ynddo ond hefyd mae’n economaidd i brynu.
Drwy gael 80% o’r deunyddiau a’r llafur yn lleol mae’n sicrhau cadwyn gynaliadwy o gyflenwi, yn creu swyddi gweithgynhyrchu medrus a lled-fedrus, ac yn darparu hyfforddiant i lenwi unrhyw fylchau sgiliau a glustnodir.
Mae cyflogi gweithlu medrus yn helpu’r economi leol ac yn dod â buddiannau lles yn ei sgîl. Elfen bwysig arall yw defnyddio pren o radd isel o Gymru ar gyfer adeiladu a allai wella hyfywedd masnachol y coetiroedd lleol. Mae coetiroedd a reolir yn well yn eu tro yn well ar gyfer ecosystemau a bioamrywiaeth.
Gwersi a Ddysgwyd
- Mae adeiladu yn gofyn am weithlu medrus y mae gofyn cael hyfforddiant ar ei gyfer yn lleol.
- Roedd y dull blwch trawst o adeiladu a ddefnyddiwyd yn y prototeip wedi ychwanegu at y gost a’r amser adeiladu, felly bydd y dull hwn yn cael ei ddisodli gan dechneg adeiladu slab a phanel sy’n symlach ond yn effeithiol i roi’r cryfder adeiladu gofynnol o’r pren lleol gradd isel.
- Nid oedd adeiladu ar bileri concrid yn gost effeithiol. Roedd y pileri yn defnyddio 9m3 o goncrid yn hytrach na 15m3 ond roedd hynny wedi costi tair wythnos ychwanegol o amser i gael y lefelau cywir.
Beth nesaf?
Dadorchuddiwyd y prototeip eco-gartref gan y Prif Weinidog yn yr hydref, ond cam nesaf y prosiect ehangach yw masnacheiddio’r prototeip i’w werthu fel tŷ parod. Bydd hynny yn creu deg o swyddi gweithgynhyrchu lleol lled-fedrus, gan gynnwys o leiaf pum prentisiaeth. Hefyd y gobaith yw y bydd hyn yn creu rhagor o swyddi i gyflenwyr.
Mae safle ffatri wedi’i sefydlu yng Ngogledd Sir Benfro ac mae’r cwmni hefyd wedi dod o hyd i dir addas lle mae’n bwriadu adeiladu chwech o’r cartrefi sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, yn seiliedig ar y prototeip. Bydd y tai hyn yn dangos esiampl ar ei orau o fyw’n gynaliadwy heddiw yng nghefn gwlad Cymru.