Archwiliwch dref fach brysur Trefdraeth, neu fentro i fyny i Garn Ingli, sy'n cael ei alw weithiau yn fynydd yr angylion, lle’r oedd Sant Brynach yn byw yn ôl yr hanes.
Sant Brynach
Dyn duwiol a wnaeth ei gartref yng Ngogledd Sir Benfro gyda chysylltiadau cadarn â Nanhyfer a Charn Ingli
Yn ôl y chwedl roedd y sant o’r Iwerddon, Sant Brynach, yn ffrindiau â Dewi Sant. Ar ôl clywed pa mor boblogaidd roedd Dewi yn Sir Benfro, penderfynodd ddilyn yn ôl ei draed.
Felly cychwynnodd o’r Iwerddon, hwylio ar garreg i Lydaw ac yna mynd i Aberdaugleddau. Unwaith ar arfordir Cymru, fe
wnaeth ei ffordd ar draws y tir gan aros mewn gwahanol fannau.
Ond wnaeth e ddim setlo yn un ohonyn nhw hyd nes yn y diwedd arweiniodd breuddwyd ef i Nanhyfer.
Yno fe aeth at fan lle’r oedd frwd fechan yn ymuno â’r afon Nanhyfer. Ac i’r fan honno y daeth hwch wen a’i arwain ef i’r man lle’r oedd i setlo.
Ar ôl derbyn tir yn rhodd gan arweinydd lleol adeiladodd fan syml i addoli lle mae Eglwys Nanhyfer nawr yn sefyll.
Roedd Brynach yn ddyn duwiol ac unig. Roedd yn gyfarwydd â’i gwmni ei hun a dywedir iddo adeiladu cell syml iddo’i hun i fyny’n uchel ynghanol creigiau Carn Ingli, sy’n golygu Mynydd o Angylion.
Yma fe dreuliodd oriau lawer, weithiau diwrnodau, yn eistedd yn unig, yn gweddïo, myfyrio a chymuno â’r Angylion.
Dywedir fod ganddo bwerau arbennig gydag anifeiliaid, a’i fod yn gallu dofi hyd yn oed y ffyrnicaf a’r gwylltaf o greaduriaid.
Roedd ganddo ddau garw a dynnai ei gert, a blaidd dof a ofalai am ei hoff fuwch odro. Ei aderyn arbennig oedd y gog, a bob blwyddyn byddai’r gog yn dod i ganu yn Nanhyfer cyn mynd i unman arall yng Ngorllewin Cymru.
Pan fu Sant Brynach farw ar 7fed Ebrill fe’i casglwyd gan angylion o ben Carn Ingli ac oddi yno fe’i cludwyd i’r nefoedd. Mae’r diwrnod hwnnw y bu farw, 7fed Ebrill, yn parhau’n ddiwrnod o ddathlu fel ei ddydd gŵyl.