Ardaloedd Cadwraeth y Parc

Mae'r 14 Ardal Gadwraeth yn Sir Benfro'n bocedi bach unigryw o dreftadaeth, hen a newydd, sy'n cael eu hystyried i fod yn ddigon pwysig i'w gwarchod a'u gwella. Maen nhw'n llefydd o bwysigrwydd hanesyddol a phensaernïol sy'n cynnal cymunedau, diwylliant a thwristiaeth.

Rhaid i’r gwaith o reoli cynllunio yn yr ardaloedd cadwraeth hyn adlewyrchu eu pwysigrwydd felly mae gan yr Awdurdod bwerau ychwanegol a elwir yn Gyfarwyddiadau Erthygl 4.

Mae Cyfarwyddiadau Erthygl 4(2) yn eu lle ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Tyddewi, Trefdraeth, Dinbych-y-pysgod, Solfach a Little Haven, ac mae angen caniatâd cynllunio i wneud gwaith sy’n cynnwys newidiadau i ddrysau a ffenestri, creu wyneb solet o unrhyw fath ac adeiladu / dymchwel terfynau / gatiau ar dai sy’n wynebu’r briffordd gyhoeddus.

Ym mhob Ardal Gadwraeth, mae angen caniatâd i gwympo a thorri coed ac i ddymchwel adeiladau penodol. Yn ogystal, mae’r Cyfarwyddiadau’n cyfyngu ar ddatblygiad a ganiateir lle mae cymeriad ardal yn cael ei erydu drwy esgeulustod a diffyg atgyweirio. Fel arall, ar hyn o bryd mae penderfyniadau sy’n gadael i berchnogion wneud mân-newidiadau i’w heiddo, heb fod angen caniatâd cynllunio, yn weithredol ar yr un lefel ag ar draws y Parc Cenedlaethol.

Mae’r Awdurdod yn monitro pob Ardal Gadwraeth a bydd yn cyflwyno mesurau rheoli Erthygl 4 fel a phryd y bo angen.

Edrychwch ar y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth i gael gwybod mwy am hanes adeiledig eich hoff ran o Sir Benfro.

/wp-content/uploads/2019/04/Article_4_NPA_guidenote2018.pdf

Map a Chanllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Ardaloedd Gadwraeth