Ymgynghoriadau Cyhoeddus

Dweud Eich Dweud

Eich Parc chi yw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Felly, yma yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gofynnwn yn aml am eich sylwadau ar y gwaith yr ydym yn ei wneud i helpu sicrhau bod eich Parc chi yn parhau i fod yn lle arbennig y gall pawb ei fwynhau.

Mae eich barn yn helpu llunio siâp ein polisïau a’n canllawiau ar gyfer y dyfodol, ar bopeth o dai i fynediad at Lwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Os hoffech gael y cyfle i ddylanwadu ar y gwaith rydym yn ei wneud, edrychwch ar yr hyn y mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymgynghori arno ar hyn o bryd trwy glicio ar y dolenni ar y dde ac isod.

Ymgynghoriadau Awdurdod y Parc

 

Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol

Rydyn ni’n adolygu ein Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol (2020-24), ac rydyn ni’n awyddus i glywed eich barn er mwyn helpu i siapio’r Cynllun nesaf, ar gyfer 2025-2029.

Mae Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yn gynllun partneriaeth ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol, sy’n cael ei ddatblygu a’i adolygu bob pum mlynedd.

Mae’n ffordd o gydlynu ymdrechion llawer o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi dibenion cadwraeth, mwynhad a dealltwriaeth y Parc Cenedlaethol.

Fel rhan o’r adolygiad, rydyn ni eisiau gwybod beth sy’n arbennig am y Parc Cenedlaethol i chi, a beth sydd angen ei wneud i ddiogelu ac adfer y rhinweddau arbennig hyn? Bydd eich adborth yn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu Cynllun Rheoli nesaf y Parc Cenedlaethol, a byddwn yn ymgynghori ar y Cynllun drafft yr haf hwn.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 5pm ddydd Gwener 19 Ebrill.

Cliciwch yma i fynd i’r arolwg.

I lenwi’r arolwg yn Gymraeg, dewiswch yr opsiwn ‘Cymraeg’ yn y gwymplen yng nghornel dde uchaf tudalen yr arolwg.

 

Ffyrdd arall i gymryd rhan