Cerdded eich Ci

CYMRYD YR AWENAU

Fel arfer, mae croeso i gŵn sy’n cael eu rheoli’n dda ar unrhyw daith i Sir Benfro, boed yn daith hamddenol ar hyd Llwybr 186 milltir Arfordir Sir Benfro neu’r milltiroedd o lonydd gwledig, llwybrau troed a llwybrau ceffylau, neu ar dros hanner cant o draethau’r sir. Mae nifer o’r opsiynau llety yn Sir Benfro hefyd yn croesawu cŵn, yn ogystal â’i hatyniadau a’r bysiau arfordirol.

I gael cyngor ar yr hyn y dylech ei ystyried wrth gerdded eich ci ar Arfordir Penfro, edrychwch ar ein Cod Ymddygiad Cerdded eich Ci and Cod Cefn Gwlad.

Mae mwyafrif y traethau yma’n croesawu eich cyfaill gorau, ond ar anterth yr haf mae yna gyfyngiadau ar gŵn ar rai o’r traethau rhwng 1 Mai a 30 Medi. Am mwy o wybodaeth ewch i’n dudalen Cŵn ar Draethau

Rydym am i chi a’ch ci fwynhau’r Parc heb beryglu eich hunain nac ymwelwyr eraill, nac anifeiliaid fferm na bywyd gwyllt. Gall cŵn nad ydynt dan reolaeth frifo neu ladd anifeiliaid a bywyd gwyllt, ac mae’n anghyfreithlon i chi adael i’ch ci amharu arnynt neu eu herlid.

Mae perygl hefyd i gŵn nad ydynt dan reolaeth ddisgyn dros ymyl clogwyni (bob blwyddyn mae Gwylwyr y Glannau’n achub cŵn neu’n helpu rhai sydd wedi cael eu brathu gan wiberod).

Pan fyddwch yn cerdded drwy wartheg, ac yn teimlo’u bod yn eich erlid – peidiwch â dal gafael ar eich ci – dylech ryddhau’r ci a dod o hyd i rywle diogel i chi’ch hun.

Mae baw ci yn gallu achosi heintiau a chlefydau mewn pobl ac anifeiliaid fferm. Mae hefyd yn gallu effeithio ar briddoedd arbennig y mae planhigion prin eu hangen i oroesi. Cofiwch gario bag i lanhau ar ôl eich ci a gwaredwch y baw ci yn y bin.

Pan fyddwch yn mynd â’ch ci am dro yng nghefn gwlad y Parc Cenedlaethol, byddwch yn aml yn mynd drwy dir fferm preifat a chynefinoedd bywyd gwyllt. Felly, byddwch yn gyfrifol a dilynwch y Cod Cefn Gwlad.

Family walking with a dog on a lead in the Preseli Hills, Pembrokeshire, Wales, UK

Cod Ymddygiad Cerdded y Ci i Sir Benfro

Cynhyrchwyd mewn ymgynghoriad â Fforwm Mynediad Lleol Sir Benfro.

Edrychwch ar ôl eich ci

  • Cadwch eich ci yn agos ac o fewn golwg – ar dennyn os oes rhaid a bob amser os nad yw’n ateb eich galwad yn syth
  • Gwnewch yn siŵr fod eich ci yn gwisgo coler, disg adnabod ac wedi derbyn sglodyn-meicro
  • Peidiwch â chaniatáu i’ch ci fynd yn agos at ymyl clogwyni, moroedd garw neu gerrynt llanw cryf
  • Meddyliwch am y tywydd – ar ddiwrnodau poeth gall ceir a thraethau fod yn rhy dwym i gŵn.

Edrychwch ar ôl ein harfordir a chefn gwlad

  • Codwch faw eich ci bob amser, mae hyn yn ofyniad cyfreithiol ar draethau a mannau lle mae pobol yn cerdded neu chwarae
  • Ewch â baw eich ci mewn bag adre gyda chi neu rhowch e mewn bin sbwriel
  • Gwnewch yn siŵr fod eich ci ar dennyn yn agos i anifeiliaid fferm ac nad yw’n rhedeg ar ôl adar neu fywyd gwyllt arall
  • Pan fydd gwartheg yn bresennol cadwch eich ci ar dennyn oni bai eich bod yn teimlo o dan fygythiad – yn yr achos hwn gadewch i’r ci fynd a gwneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel
  • Dilynwch arwyddion a chadw at ddeddfau lleol megis cyfyngiadau ar gŵn ar draethau
  • Cadwch eich ci ar y llwybr wrth gerdded yng nghefn gwlad.

Byddwch yn ystyriol o eraill

  • Dangoswch barch at bobol eraill a’u cŵn
  • Cadwch eich ci draw o rai sy’n marchogaeth ceffylau, beicwyr a phicnics
  • Peidiwch â gadael i’ch ci gyfarth yn ormodol
  • Cofiwch nad yw pawb yn hoffi cŵn, yn enwedig plant bach.