Codiad yn Lefel y Môr

Disgwylir newid yn lefel y môr wrth i’n hinsawdd ni newid. Fe fydd hyn yn digwydd oherwydd:

  • Wrth i’r hinsawdd gynhesu mae’n cynhesu’r moroedd a’r cefnforoedd. Fe fydd y defnynnau dŵr yn ymestyn (mynd yn fwy), ac felly fe fyddan nhw’n cymryd mwy o le.
  • Rhewlifoedd a iâ pegynol yn toddi. Mae llawer o’r dŵr yma wedi cael ei gloi i ffwrdd ers miloedd o flynyddoedd. Os yw iâ pegynol a rhewlifoedd yn toddi fe fydd mwy o ddŵr.
  • Ble mae’r iâ wedi toddi, mae’n gadael pridd neu fôr noeth. Mae’r pridd neu’r môr yn amsugno gwres o’r haul, ond o’r blaen byddai’r iâ’n adlewyrchu’r gwres yn ôl i’r gofod. Os yw’r môr a’r tir yn fwy cynnes, fe fydd yr hinsawdd yn cynhesu.

Most people think that melting ice is the most important cause of sea level rise, but this is not true. It is the expansion of the sea water as it gets warmer that is causing the biggest change to sea levels.

Yn ôl Asesiad Risg Newid Hinsawdd Llywodraeth y DU 2017, mae lefel y môr yn y DU yn codi oddeutu 3mm y flwyddyn.

Beth allai ddigwydd os yw lefel y môr yn codi?

Nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn credu y bydd codiad yn lefel y môr yn effeithio rhyw lawer arnom, ond a yw hyn yn wir?

  • Fe fyddwn yn colli tir arfordirol. Efallai y bydd traethau, heolydd, cartrefi a busnesau’n diflannu o dan y dyfroedd sy’n codi. Mae Sir Benfro’n dibynnu ar dwristiaeth ar gyfer llawer o’i llewyrch. Sut fydd hi’n ymdopi os yw’r traethau’n diflannu?

Meddyliwch am y tir rhwng Penalun a Dinbych-y-pysgod. Mae llawer ohono’n dir isel, ac ychydig uwchben lefel y môr. Os yw lefel y môr yn codi, fe fydd y twyni’n diflannu, fe fydd y môr yn gorlifo dros brif heol yr arfordir a’r rheilffordd o Ddinbych-y-pysgod i Benfro.

  • Fe fydd tir aber yn cael ei golli. Dim ond codiad bach yn lefel y môr sydd ei angen i orlifo aberoedd Dyfrffordd y Cleddau. Mae llawer o rywogaethau’n dibynnu ar y cynefinoedd hyn am eu bwyd, ac fe fydd hyn yn cael i golli.

Mae’r aberoedd hefyd yn llefydd ble mae pobl yn cadw’u cychod. Dychmygwch y pil yn Neyland neu’r harbwr yn Noc Penfro. Sut fyddan nhw’n newid?

  • Llanwau mwy. Yma yng Nghymru, mae gennym un o’r amrediadau llanw mwyaf yn y byd. Fe fydd hyn yn cynyddu wrth i lefel y môr godi. Faint o lefydd sy’n dioddef effeithiau llanwau uchel nawr?

Mae llanwau uchel yn y gwanwyn a’r hydref yn effeithio ar lefydd fel Angle ac Abergwaun ar yr arfordir, ond hefyd yn cyrraedd ymhell i fyny Dyfrffordd y Cleddau i greu llifogydd yng Nghaeriw a hyd yn oed Hwlffordd.

Flooding at the National Park Authority's car park at Newgale, Pembrokeshire Coast National Park, Wales, UK

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol