Oes y Tuduriaid

Fe lwyddodd buddugoliaeth Harri Tudur, ar faes Bosworth ym mis Awst 1485, i arwain Prydain i gyfnod newydd yn ei hanes; dechrau Brenhinlin y Tuduriaid. Ganed y brenin newydd, Harri VII, yng Nghastell Penfro, ac roedd eisoes wedi dechrau ei ymgyrch i gipio gorsedd Lloegr trwy lanio ym Mae’r Felin (Mill Bay) ger Dale.

Roedd Sir Benfro yn lle o lewyrch cynyddol yn Oes y Tuduriaid, ac yn un ble sefydlwyd ac estynnwyd ystadau mawr. Un o’r mwyaf crand o blith y rhain oedd yr un yng Nghastell Caeriw. Ar ôl Bosworth, fe gadarnhaodd Harri VII Rhys ap Thomas, Arglwydd Cairew, fel un o’i ddynion uchaf yng Nghymru.

Er bod gan Rhys ystadau eraill, treuliodd amser sylweddol ar Gaeriw a gwariodd arian lawer arno, gan ei drawsnewid i fod yn adlewyrchiad o’i safle a’i statws. Daeth hyn i’w anterth ym 1507 pan gynhaliodd Rhys dwrnamaint crand mewn arddull Ganoloesol yng Nghaeriw. Hyd yn oed ar ôl marwolaeth Rhys, parhaodd Caeriw i flodeuo. Ym 1558 rhoddwyr tir Caeriw i Syr John Perrot, un o hoff bobl y Frenhines Elisabeth. Aeth ati i estyn y castell.

Carew Castle and Tidal MIll

Mae Caeriw yn un enghraifft o’r gwaith o adeiladu ystadau yn Sir Benfro yn Oes y Tuduriaid. Fe elwodd teulu’r Barlow o ddiddymiad y mynachlogydd, gan ennill ystad yn Slebets. Yn ngogledd y sir, roedd yna fwy o gyfuniad o’r hen hierarchaeth Gymreig gydag arglwyddi Seisnig y de.

I fasnachwyr, roedd Prydain yn Oes y Tuduriaid yn lle i ffynnu. Fe elwodd trefi fel Trefdraeth, Penfro a Dinbych-y-pysgod o’r ffaith eu bod mor agos at y môr, a chludwyd llwythi i Sir Benfro, ac o Sir Benfro, ar draws y byd gwybyddus.

Oeddech chi'n gwybod?

Yn Ninbych-y-pysgod, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cadw enghraifft o dŷ masnachwr o Oes y Tuduriaid. Yn y llety cyffyrddus hwn, mae cyplau gwreiddiol y to wedi goroesi a gellir gweld olion ffresgoau ar y waliau.

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol