Dyma rai o’r cwestiynau a ofynnir amlaf am Lwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Atebir pob cwestiwn yn fwy manwl yn is i lawr y dudalen ond os dilynwch chi’r deg cam isod mi fyddwch yn siŵr o osgoi’r rhan fwyaf o’r problemau cyffredin y mae cerddwyr yn eu profi ar Lwybr Arfordir Penfro.

  1. Gwisgwch esgidiau â gafael da ac a fydd yn cynnal eich pigyrnau.
  2. Gofalwch fod gennych ddillad wrth gefn a dillad dal dŵr, beth bynnag mae rhagolygon y tywydd yn ei ddweud.
  3. Gwiriwch amseroedd y llanw i wneud yn siŵr na fydd yn rhaid i chi wyro oddi ar eich llwybr.
  4. Peidiwch byth â dringo clogwyni heb offer dringo addas a’r hyfforddiant a’r sgiliau i’w defnyddio.
  5. Ewch â dŵr a bwyd egni gyda chi.
  6. Gofalwch fod yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud yn addas i’ch galluoedd; gweithiwch tuag at her yn raddol yn hytrach na cheisio’i chyflawni ar y diwrnod cyntaf.
  7. Rhowch fanylion am eich taith i drydydd parti. Dylech gynnwys mannau cychwyn a gorffen, amser gadael a’r amser rydych yn gobeithio cyrraedd yn ôl, nifer y bobl ar y daith ac ati. Gellir rhoi gwybod wedyn os na fyddwch yn cyrraedd ar yr amser disgwyliedig neu os oes pryder o unrhyw fath.
  8. Peidiwch â chael eich temtio i sefyll ar ymyl clogwyn i edmygu’r olygfa; gall roi o dan eich pwysau.
  9. Er bod dyfeisiadau GPS ac appiau’n gallu bod yn ddefnyddiol, gall map Arolwg Ordnans (OS) eich helpu i wybod lle’r ydych chi os byddwch mewn trafferthion ar Lwybr yr Arfordir. Bydd yn helpu’r Gwasanaethau Brys i ddod o hyd i chi’n gyflym os gallwch roi Cyfeirnod Grid eich lleoliad. Mi sylwch hefyd fod gennym wybodaeth ychwanegol am leoliadau ar blaciau gwyn bychan bob rhyw chwarter milltir ar hyd y llwybr. Os byddwch mewn trafferthion neu wedi cael anaf a bod angen help arnoch ar Lwybr yr Arfordir neu’r traethau, ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.
  10. Cerdded â chŵn: gall cŵn fynd i drafferthion wrth grwydro, felly dylech eu cadw ar dennyn bob amser ger ymylon clogwyni ac os oes da byw o gwmpas. Os byddant yn sownd ar glogwyn, mewn mwd neu’n cael eu hysgubo allan i’r môr, peidiwch â mynd ar eu hôl.

1. Faint o amser sydd ei angen i gerdded y llwybr cyfan?

Mae’r llawlyfr swyddogol yn argymell 12 diwrnod i gwblhau’r daith (tua 15 milltir bob dydd).

Mae hyn yn dipyn o her ddiwrnod ar ôl diwrnod, felly mae’n werth cynnwys ambell ddiwrnod o seibiant neu gymryd mwy o amser a cherdded llai o filltiroedd y dydd.

Mae ein hadran ‘Cynllunio eich Taith’ yn rhannu’r Llwybr yn 15 rhan ond mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gyffyrdd mewndirol y llwybr fel y gallwch lunio eich rhaglen eich hun.

Gallwch hyd yn oed rannu’r daith yn rhannau dros nifer o ymweliadau a defnyddio Her Llwybr yr Arfordir i gadw cofnod o’ch cynnydd.

 

2. Reit – felly pa mor hir yw’r Llwybr mewn gwirionedd?

Mae Llwybr yr Arfordir yn 186 milltir (299km) ond gyda’r holl lwybrau amgen ar gyfer llanw uchel, stormydd a meysydd tanio, mae’r hyd a gynhelir dros 193 milltir (312km). Gan gynnwys dargyfeiriadau i bentiroedd, gwasanaethau a llety bydd ei hyd yn gryn dipyn yn fwy.

 

3. Sut ydw i’n dilyn Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro?

Mae Llwybr Arfordir Penfro wedi’i arwyddo’n dda ar hyd y ffordd. Byddwch yn gweld symbol mesen ar gamfeydd, giatiau, mynegbyst a pholion lamp drwy drefi. Dyma’r symbol a ddefnyddir gan holl Lwybrau Cenedlaethol Cymru a Lloegr.

Gall y mynegbyst hefyd gynnwys y geiriau ‘Llwybr yr Arfordir’ a phellter a gwybodaeth am y gyrchfan neu logo Llwybr Arfordir Cymru sy’n dilyn yr un llwybr drwy Sir Benfro.   Add a WCP and Acorn logo here

Mae Llwybr yr Arfordir yn mynd trwy nifer o drefi a phentrefi. Er bod sawl llwybr y gallwch eu dilyn drwy drefi a phentrefi, mae’r llwybr swyddogol wedi’i arwyddo â symbol mesen wen sy’n aml yn uchel ar bolion lamp neu ddodrefn stryd.

Bydd angen i chi wirio eich map yn ofalus i wneud yn siŵr eich bod yn gadael tref ar ffordd sy’n arwain i’r Llwybr.

 

4. A allaf i ddefnyddio Llwybr yr Arfordir ar gyfer teithiau cerdded byr?

Gallwch. Mae sawl rhan sy’n cynnwys teithiau cylch neu ‘yno ac yn ôl’.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r bysiau arfordirol. Os ydych chi’n teithio â char, pam na wnewch yrru i ddiwedd eich taith a dal bws i’r man cychwyn i gwblhau’r daith wrth eich pwysau? Mewn rhannau eraill o wefan Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro mae tua 200 o deithiau cylch gyda mapiau y gallwch eu lawrlwytho am ddim. Mae llawer o’r llwybrau hyn yn rhan o Lwybr yr Arfordir. Dewiswch ‘Llwybr yr Arfordir’ o’r hidl Math o Daith i weld y teithiau cerdded cylch sy’n cynnwys rhan o Lwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro.

 

5. A oes llyfrau tywys a mapiau y gallaf eu defnyddio i fy helpu i gynllunio fy nhaith?

Oes. Mae llawer o lyfrau tywys ar gael ond mae’r llyfr tywys swyddogol gan Brian John yn cynnwys detholion lliw o gyfres Explorer yr Arolwg Ordnans ar raddfa 1:25,000 sy’n dangos pwyntiau ar y llwybr wedi’u croesgyfeirio i’r testun. Disgrifir y daith o’r gogledd i’r de. Bydd canllawiau eraill yn disgrifio’r daith o’r de i’r gogledd, felly gallwch brynu un sy’n addas i’ch cyfeiriad teithio.

Mae Mapiau Explorer yr Arolwg Ordnans (OS) (graddfa 1:25,000 gyda chloriau oren) yn gydymaith perffaith i gerddwyr. Maent yn dangos llwybrau troed, llwybrau ceffylau, llwybrau, nodweddion y dirwedd a mannau o ddiddordeb. Mae Sir Benfro wedi’i chynnwys ar ddau fap, sy’n gorgyffwrdd yn Niwgwl.

Gallwch brynu llyfrau tywys a mapiau mewn llawer o siopau, gan gynnwys siopau llyfrau lleol, siop y Llwybr Cenedlaethol a gwefan yr OS, yn ogystal â chanolfannau ymwelwyr Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, Castell Caeriw a Phentref Oes Haearn Castell Henllys.

 

6. Sut alla i gyrraedd Parc Arfordir Penfro a symud o gwmpas yr ardal gyda thrafnidiaeth gyhoeddus?

I Amroth (pen deheuol Llwybr yr Arfordir) cymerwch y bws i Gilgeti ac yna dal bws 351 i Amroth (5km).

Yn Llandudoch (pen gogleddol Llwybr yr Arfordir) daliwch drên i Hwlffordd ac yna’r bws T5 i Aberteifi, neu o orsaf fysiau Caerfyrddin cymerwch fws 460 i Aberteifi, yna cymerwch fws cerddwyr 405 (Poppit Rocket) neu cerddwch i Landudoch 1.5 milltir (2.5km), gallwch aros ar fws Poppit Rocket i Draeth Poppit i osgoi cerdded mwy ar y ffordd.

Mae trenau ar y lein ogleddol yn cyfarfod Llwybr yr Arfordir yn Harbwr Abergwaun (Gwdig); ar y lein orllewinol yn Aberdaugleddau; ar y lein ddwyreiniol yn Noc Penfro ac yn Ninbych-y-pysgod.

Mae’r holl drenau a nodwyd yn mynd drwy Orsaf Hendy-gwyn ar Daf, mi all fod yn rhatach cael tocyn dwyffordd i Hendy-gwyn ar Daf a thocyn unffordd i’r cyrchfannau.

Am ragor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus leol gan gynnwys mapiau, amserlenni ar gyfer gwasanaethau gan gynnwys y bysiau arfordirol, gweler Gwefan Cyngor Sir Penfro.

Am wybodaeth ar gyrraedd Sir Benfro o rannau eraill o’r DU â Thrên a Bws, gweler Gwefan Croeso Cymru.

Mae Fflecsi Sir Benfro yn wasanaeth trafnidiaeth ar alw. Mae gwasanaethau yn cynnig gwahanol deithiau bod dydd i sicrhau bod pawb yn yr ardal yn gallu defnyddio’r gwasanaeth. Mae’n rhaid archebu teithiau ymlaen llaw.

Mae’r parthau gwahanol yn cynnwys lleoliadau ar yr arfordir o Abergwaun i Neyland. Ewch i wefan Fflecsi Sir Benfro i gael rhagor o wybodaeth.

 

7. Lle alla i barcio fy nghar?

Rydych yn parcio ym mhob man at eich menter eich hun a gall prisiau newid.

Meysydd Parcio Cyngor Sir Penfro

Meysydd Parcio Awdurdod y Parc Cenedlaethol

  • Dangosir lleoliad 14 maes parcio Awdurdod y Parc Cenedlaethol lle codir tâl ar ein tudalen parcio. Mae’r tymor pan godir tâl rhwng 15 Mawrth a 7 Tachwedd bob blwyddyn. Mae peiriannau talu ac arddangos yn derbyn arian parod, fel arall gallwch dalu ar-lein drwy PayByPhone (agor mewn ffenest newydd). Mae’r signal ffôn yn wael mewn rhai meysydd parcio ond gallwch ddefnyddio PayByPhone i dalu ar y ffordd. Sylwch nad yw prynu tocyn cyn i chi gyrraedd yn gwarantu y bydd lle parcio ar gael.
  • I’r sawl a hoffai barcio am wythnos mae tocyn wythnos £30 y gellir ei drosglwyddo rhwng gwahanol feysydd parcio’r Parc Cenedlaethol ar gael drwy beiriannau talu ac arddangos (nid yw ar gael drwy PayByPhone). Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd yn cynnig tocynnau tymor am £50 ar gyfer unrhyw un maes parcio enwebedig sy’n codi tâl, neu docyn tymor £140 sy’n eich galluogi i symud rhwng holl feysydd Parcio’r Parc Cenedlaethol. Rhaid prynu tocynnau tymor ymlaen llaw felly dylech ganiatáu amser ar gyfer cludiant post.

 

Meysydd Parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

 

Opsiynau eraill

  • Bydd rhai darparwyr llety a gwersylloedd ar hyd yr arfordir yn caniatáu i chi barcio car am dâl bychan.

 

8. A oes gwasanaethau ‘trosglwyddo paciau’ neu ‘hunan arwain’ a ‘gyda thywysydd’?

Oes. Noder fod y rhai sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr er gwybodaeth yn unig, ac nid yw’n rhestr gyflawn nac yn argymhelliad.

Tacsis a Throsglwyddo Paciau

Tyddewi

  • Morgan’s Taxis: 07788 292976
  • Franks Cabs: 01437 721731 / 07974 391522

Hwlffordd

Baggage Transfer only

Teithiau cerdded hunan arwain a throsglwyddo paciau

 

9. Sut alla i ddod o hyd i lety ar y Llwybr Cenedlaethol?

Mae Sir Benfro yn cynnig pob math o opsiynau ar gyfer llety, o westai cyfoes, gwely a brecwast, bythynnod hunan arlwyo, tai bynciau, hosteli, safleoedd carafanau a/neu wersylloedd. Mae llety’n amrywio o ardal i ardal gyda’r opsiynau’n gyfyngedig mewn rhai sy’n golygu y gall fod yn anodd dod o hyd i lety ar y funud olaf, felly awgrymir eich bod yn gwneud trefniadau ymlaen llaw.

Mae dau hostel yr YHA mewn lleoliadau cyfleus yn agos at y llwybr yn Nhraeth Poppit, Trefdraeth, Pwll Deri, Tyddewi, Aberllydan a Maenor-bŷr. Ewch i wefan yr YHA am fwy o wybodaeth.

Pan fyddwch wedi penderfynu lle’r ydych am aros gall chwiliad ar-lein sydyn ddangos mwy o opsiynau. Mae gwefan y Llwybrau Cenedlaethol a gwefan Visit Pembrokeshire ddangos opsiynau llety ar fap.

Gallwch hefyd ystyried aros yn yr un lle am sawl noson a defnyddio’r bws arfordirol i symud o le i le, ond cofiwch fod yr amserlenni’n wahanol yn yr haf a’r gaeaf. Am yr amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus diweddaraf ewch i wefan Cyngor Sir Penfro.

 

10. A yw gwersylla gwyllt yn cael ei ganiatáu?

Nac ydy. Mae bron yr holl dir y mae Llwybr yr Arfordir yn mynd trwyddo mewn perchnogaeth breifat. Mae gwersylla heb ganiatâd y tirfeddiannwr (gwersylla gwyllt) yn cyfrif fel tresmasu yn erbyn y perchennog. Mae llawer o wersylloedd ar hyd Llwybr yr Arfordir. Mae llawer ohonynt yn rhai bach felly mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol os ydych chi’n bwriadu aros ar benwythnosau gŵyl y banc neu rhwng Mehefin a Medi. Bydd rhai safleoedd yn agor am gyfnodau byr yn unig yn ystod misoedd yr haf felly efallai na fyddant yn cael eu hyrwyddo’n eang.

 

11. A yw Llwybr Cenedlaethol Parc Arfordir Penfro ar agor gydol y flwyddyn?

Mae’r rhan fwyaf o Lwybr yr Arfordir ar agor drwy’r flwyddyn; fodd bynnag mae adegau pan all mynediad fod yn gyfyngedig.

Llanwau
Ni ellir cerdded rhannau o’r llwybr ar benllanw ac mae’n syniad da i wirio amseroedd llanwau gan fod Llwybr yr Arfordir yn mynd heibio llawer o draethau a childraethau y byddwch am ymweld â hwy pan fydd y llanw yn isel.

Y ddwy brif groesfan lanwol yw rhwng Dale ac Aberdaugleddau. Mae un yn Sandy Haven ac mae’r llall yn Pickleridge/The Gann ger Dale. Mae’r ddau wedi’u gorchuddio am dros chwe awr ar bob llanw. Mae llwybrau eraill ar gael ond maent yn golygu cerdded cryn bellter ar ffyrdd, felly os yn bosibl, cynlluniwch eich taith gyda hyn mewn golwg.

Gallwch groesi’r groesfan yn Sandy Haven 2.5-3 awr bob ochr i lanw isel, a’r Gann 3-3.5 awr bob ochr i’r llanw isel. Er mwyn bod yn sicr o gerdded yn ddiogel ar draws y ddwy gilfach llanw ar yr un pryd, mae angen i chi gyrraedd yr un cyntaf wrth i’r llanw disgyn i sicrhau fod gennych 6 awr i groesi’r ail un. Mae’r pellter rhwng y ddwy groesfan ychydig yn llai na 6 milltir, felly yn dibynnu ar y cyflymder rydych chi’n cerdded, byddem yn awgrymu eich bod chi’n caniatáu tua 2 awr a hanner rhwng y croesfannau. Bydd hyn yn amrywio rhwng llanw isel a gwanwyn a bydd hyn hefyd yn cael ei effeithio os bydd y tywydd yn arwain at system gwasgedd isel dwys. Os byddwch chi’n dechrau wrth i’r llanw ostwng, efallai bydd rhaid i chi aros ychydig o amser er mwyn croesi heb wlychu.

Hefyd mae nifer o groesfannau llanwol llai a all fod yn amhosibl i’w croesi am ryw awr ar benllanw’r gorlanw. Y peth gorau yw aros i lefel y dŵr ostwng. Y mannau hyn yw:

  • Rhwng Iron Bridge, Trefdraeth a Thraeth Trefdraeth – dim ond ar adeg y gorlanw uchaf.
  • Quoits Mill i’r gorllewin o Monkton, Penfro – mae llifogydd ar y ffordd pan fydd y llanw’n fwy na 6.5 metr. Mae’r rhan sydd dan ddŵr hyd at 200 metr o hyd, yr unig ddewis arall yw ffordd, na fyddem yn ei hargymell i gerddwyr. Y peth gorau yw naill ai cynllunio’ch taith gyda hyn mewn cof neu aros i lefel y dŵr ostwng.
  • Pwllcrochan, Hundleton – dim ond ar adeg y gorlanw uchaf
  • Point House Lane, Angle – dim ond ar adeg y gorlanw.
  • Traeth Little Wick (South Hook), i’r gorllewin o Aberdaugleddau – dim ond ar adeg y gorlanw uchaf
  • Pwll y Castell, Penfro – dim ond ar adeg y gorlanw uchaf.

Byddwch yn ofalus gan fod croesfannau llanwol yn gallu bod yn llithrig!

Gallwch lawrlwytho’r tablau llanw diweddaraf ar wefan Porthladd Aberdaugleddau (Rhoddir yr amseroedd fel Amser Greenwich, felly peidiwch ag anghofio ychwanegu awr rhwng Sul olaf mis Mawrth a Sul olaf mis Hydref). Mae’r tablau llanw rhwng Ebrill a Hydref ar gael hefyd yn eich cylchlythyr i ymwelwyr Coast to Coast.

Mynediad i Feysydd Tanio Milwrol
Mae Llwybr yr Arfordir yn mynd trwy neu o amgylch tair ardal hyfforddi filwrol lle gellir cyfyngu ar ddefnydd gan y cyhoedd. Rhaid cymryd gofal yn yr ardaloedd hyn bob amser – rhaid i chi gadw at y llwybr troed, cadw i ffwrdd o bob adeilad ac osgoi mynd at neu gyffwrdd unrhyw beth a welwch ar lawr. Nid yw Maes tanio Maenor-bŷr yn effeithio ar dramwy cerddwyr ond mae meysydd tanio Castellmartin a Phenalun yn cyfyngu ar fynediad i’r cyhoedd.

  • Mae mynediad yn bosibl fel arfer ar benwythnosau, gwyliau cyhoeddus a thrwy gydol Awst ond gall hyn newid felly gwiriwch yr amserlenni i fod yn siŵr. Mae amserlenni ar gael am hyd at ddeufis ymlaen llaw drwy chwilio am hysbysiadau Penally Gallery Range neu Castlemartin Range ar wefan Gov.uk.
  • Noder y gall Castellmartin gau ar fyr rybudd ar adegau prin felly’r peth gorau yw gwrando ar yr wybodaeth wedi’i recordio sydd i’w chlywed ar 01646 662367 y diwrnod cyn i chi deithio.
  • Os bydd ar gau, bydd baneri coch yn hedfan a bydd milwyr a swyddogion gwarchod ar ddyletswydd mewn pwyntiau mynediad allweddol.

 

Penalun
Mae llwybr arall byr a hawdd i’w ddilyn ar gyfer y Llwybr Cenedlaethol.

Castellmartin

  • Cyn belled na fydd saethu yn y nos, bydd Maes Tanio Castellmartin ar agor fel arfer erbyn tua 4.30pm ar y rhan fwyaf o ddyddiau saethu.
  • Pan fydd y maes tanio wedi cau darperir llwybr ceffylau caniataol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a elwir yn ‘Castlemartin Range Trail’ (gydag arwyddion tanc yn ei ddynodi). Mae ar agor gydol y flwyddyn i ganiatáu llwybr o amgylch ymylon y maes tanio ac mae’n well na cherdded ar hyd y ffordd. Mae manylion am y Range Trail ar gael ar ein gwefan yn y dudalen Maes Tanio Castellmartin
  • Mae clogwyni calchfaen trawiadol i’w cael ar Faes Tanio Castellmartin, ac maent yn boblogaidd iawn ymhlith dringwyr. Mae’n werth gwirio’r hysbysiad saethu i weld a yw’r rhan i’r dwyrain o Sain Gofan ar gael hyd yn oed os yw’r rhan o Sain Gofan i Stack Rocks ar gau fel y gallwch gerdded y rhan honno.

Peidiwch â gadael i’r dargyfeiriadau a achosir gan y meysydd tanio eich poeni’n ormodol gan fod llwybrau eraill da, sydd wedi’u harwyddo ar gael. Mae angen talu mwy o sylw i’r dargyfeiriadau a achosir gan y cilfachau llanwol yn Dale a Sandy Haven (gweler uchod).

Dargyfeiriadau dros dro
Weithiau bydd dargyfeiriadau’n cael eu cyflwyno pan fydd gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud ar rannau o Lwybr yr Arfordir, a bydd unrhyw ddargyfeiriadau sylweddol yn cael ei nodi yn yr adran ar Newyddion y Llwybr ar y wefan.

 

12. Pa adeg o’r flwyddyn yw’r gorau i gerdded Parc Arfordir Penfro?

Mae gan Barc Arfordir Penfro rywbeth i’w gynnig drwy’r flwyddyn ac mae’n well gan rai pobl gerdded pan fydd y tywydd yn llai poeth yn y gwanwyn neu’r hydref, neu hyd yn oed ar ddyddiau clir braf yn y gaeaf.

Mae’r amser gorau’n dibynnu arnoch chi, eich diddordebau (gweler isod) ac a ydych chi’n mwynhau’r tymor gwyliau prysur ynteu a fyddai’n well gennych ddod yn ystod y misoedd tawelach. Hyd yn oed yn y misoedd prysuraf gall y rhannau mwyaf diarffordd fod yn dawel iawn.

Yn yr haf mi all fod yn anodd dod o hyd i lety, yn enwedig ar gyfer un noson yn unig, felly fe’ch cynghorir i archebu mewn da bryd. Yn ystod misoedd y gaeaf gall y tywydd newid yn gyflym gyda gwyntoedd cryfion yn ystod stormydd a diffyg gwelededd oherwydd glaw a niwl yn creu amodau peryglus ar gopaon y clogwyni.

Mae’r uchafbwyntiau tymhorol yn cynnwys:

Adar mudol – yn y gwanwyn a’r hydref;
Adar yn bridio – yn y gwanwyn a’r haf;
Blodau gwyllt – ar eu gorau yn ystod Ebrill a Mai;
Morloi ifanc – yn yr hydref.

 

13. I ba gyfeiriad ddylwn i gerdded?

Mae llawer o bobl yn cerdded y llwybr o Landudoch yn y gogledd i Amroth yn y de. Dyma’r cyfeiriad y mae’r rhan fwyaf o’r llyfrau tywys yn ei ddilyn, a hefyd yr adran ‘Cynllunio eich taith’ o’r wefan hon.

Nid oes ffordd gywir nac anghywir – mae llawer yn mwyhau cerdded y llwybr i’r cyfeiriad arall, ac mae llyfrau wedi’u hysgrifennu sy’n dilyn y ddau gyfeiriad. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ‘Gogledd i’r de ynteu de i’r gogledd?’

 

14. Pa offer fydd ei angen arna i?

Er bod Llwybr yr Arfordir wedi’i arwyddo’n dda, awgrymir yn gryf eich bod yn mynd â map neu lyfr tywys gyda chi.

Argymhellir eich bod yn gwisgo esgidiau cerdded da sy’n cynnal eich pigyrnau gan fod Llwybr yr Arfordir yn anwastad a garw mewn mannau ac mi all fod yn fwdlyd ar ôl glaw. Mi all polion cerdded helpu ar dirwedd arw.

Gall y tywydd droi’n sydyn ar yr arfordir felly mae’n ddoeth bod yn barod am hynny. Bydd angen dillad dal dŵr arnoch gan gynnwys trowsus, haenau cynnes a het haul. Mae eli haul yn cael ei argymell hyd yn oed ar ddyddiau cymylog. Ewch â digonedd o ddŵr gyda chi (tua litr) gan nad oes cyfle i ail-lenwi eich poteli ar rai o’r darnau hwyaf.

Nid ydym yn argymell yfed dŵr o nentydd, hyd yn oed gyda hidlydd.

Os ydych yn cerdded ar eich pen eich hun efallai yr hoffech roi gwybod i rywun i ble rydych yn mynd gan nad oes modd dibynnu ar signal ffôn ym mhob man. Gwnewch yn siŵr bod eich ffôn wedi’i wefru’n llawn cychwyn.

 

15. A alla i ddod â fy nghi gyda mi ar y Llwybr Cenedlaethol?

Mae croeso i’ch ci ar Lwybr yr Arfordir cyn belled â’i fod o dan reolaeth gydol yr amser. Mae hyn yn bwysig er lles eich ci a’r bywyd gwyllt a’r anifeiliaid fferm ar Lwybr yr Arfordir.

Yn anffodus, mae cŵn yn syrthio dros glogwyni bob blwyddyn, wrth iddynt redeg ar ôl bywyd gwyllt neu dda byw. Os oes modd achub eich ci mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar Wylwyr y Glannau a’r RNLI.

Rydym wedi newid llawer o gamfeydd ac wedi gosod giatiau cŵn ar rai camfeydd. Fodd bynnag, mae 11 o gamfeydd y bydd yn rhaid i’ch ci eu dringo neu gael ei godi drostynt.

Dylech sylweddoli bod rhai rhannau o Lwybr yr Arfordir yn mynd drwy ffermydd lle gall da byw fod yn pori. Yn anffodus, gwelwyd digwyddiadau lle mae gwartheg a defaid wedi cael eu herlid dros y clogwyni gan gŵn nad ydynt dan reolaeth, felly’r peth doeth yw cadw eich ci ar dennyn.

Mae cyfyngiadau neu gyfyngiadau rhannol ar rai traethau rhwng Mai a Medi; gweler yr arwyddion yn y fan a’r lle am fanylion neu ewch i’n tudalen Cerdded eich ci. Rhesymau eraill dros gadw eich ci dan reolaeth yw atal aflonyddu ar forloi ar draethau a rhag ofn iddynt ddod ar draws gwiberod. Mi all brathiad gwiber fod yn ddifrifol iawn i gŵn bach.

 

16. A alla i farchogaeth fy ngheffyl neu seiclo ar Lwybr Cenedlaethol Parc Arfordir Penfro?

Yn y rhan fwyaf o fannau, na chewch – mae’r rhan fwyaf o Lwybr yr Arfordir ar gael i bobl ar droed yn unig. Mae hyn am fod bron y cyfan ohono’n llwybr troed cyhoeddus yn hytrach na llwybr ceffylau cyhoeddus. Heblaw am y rhannau ohono sy’n llwybr ceffylau nid yw Llwybr yr Arfordir yn cael ei gynnal ar gyfer seiclo ac mae defnydd anghyfreithlon ohono gan seiclwyr yn berygl i’r seiclwyr a’r cerddwyr eraill am fod y llwybrau’n gul ac oherwydd y clogwyni.

Yr eithriadau yw’r rhannau sy’n llwybr ceffylau rhwng Stack Rocks a Sain Gofan a rhannau o’r Llwybr rhwng Amroth a Saundersfoot sy’n llwybrau beiciau.

 

17. A fydd lluniaeth ar gael?

Mae dewis da o dafarnau, caffis, bwytai a siopau yn y trefi a’r pentrefi ar hyd yr arfordir. Mae rhai ohonynt yn cau yn y gaeaf. Am ragor o wybodaeth am fannau i fwyta gweler gwefan Visit Pembrokeshire.

Mae rhai rhannau eithaf hir o’r llwybr heb bentref o faint sylweddol. Mae’n bwysig eich bod yn cynllunio ymlaen llaw ac yn mynd â digon o fwyd a dŵr gyda chi ar y rhannau hyn.

Mae rhai toiledau cyhoeddus ar hyd yr arfordir yn darparu dŵr yfed y tu mewn neu’r tu allan i’r adeilad. Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro am fwy o wybodaeth.

Mi fydd llawer o gaffis, bariau, bwytai, orielau, gwersylloedd a busnesau eraill yn fwy na hapus i lenwi eich potel ddŵr am ddim. Mae ap ail-lenwi â dŵr newydd gael ei lansio gyda nifer cyfyngedig o leoliadau hyd yma ond mae’r niferoedd yn tyfu. Bydd llawer o fusnesau sydd heb eu rhestru’n hapus i ail-lenwi potel. I lawrlwytho’r ap ewch i wefan Refill.

Noder ei bod yn bosibl na fydd rhai pwyntiau ail-lenwi ar gael oherwydd Covid-19. Felly mae’n bwysicach nag erioed eich bod yn cynllunio ymlaen i sicrhau bod gennych ddigon o ddŵr ar gyfer eich taith.

 

18. Beth yw’r record ar gyfer rhedeg Llwybr yr Arfordir? Rwyf am ei thorri!

Mae llawer o bobl yn gosod her i’w hunain i gwblhau’r Llwybr yn yr amser cyflymaf, ond oherwydd y dirwedd anwastad, y llethrau serth a’r clogwyni nid ydym yn annog rhedeg ar Lwybr yr Arfordir. Er mwyn gwarchod cerddwyr, rydym wedi cynhyrchu canllaw i redwyr ar Lwybr yr Arfordir.

 

19. Pwy sy’n berchen ar Lwybr yr Arfordir?

Mae’r rhan fwyaf o’r tir ar Lwybr yr Arfordir yn croesi tir preifat sy’n eiddo i wahanol unigolion ac ystadau. Pe baech yn cerdded y llwybr cyfan rydym yn amcangyfrif y byddwch yn mynd trwy 180 o ddaliadau tir gwahanol.

Mae Llwybr yr Arfordir yn mynd drwy hawliau tramwy cofrestredig yn bennaf. Mae hyn yn golygu bod gennych hawl cyfreithiol i gerdded ar y tir cyn belled â’ch bod chi a’ch ci yn cadw at y Llwybr. Am ragor o gyngor ewch i’n tudalen ar y Cod Cefn Gwlad.

 

20. Mi allaf ddibynnu ar fy ffôn symudol i fy nghael allan o unrhyw drafferthion

Na, ni allwch ddibynnu arno! Rhybuddir cerddwyr nad yw signal ffonau symudol yn ddibynadwy ar y rhan fwyaf o’r arfordir. Rydym yn annog ymwelwyr i ddibynnu ar eu hoffer eu hunain ac i gynllunio ymlaen cymaint â phosibl. Os bydd argyfwng mae gwybodaeth am leoliadau (rhifau cyfeirnodau grid) ar blaciau bychan bob rhyw chwarter milltir sydd wedi’u gosod ar giatiau ,camfeydd, mynegbyst ac weithiau ar bolion ffens. Os byddwch yn ffonio Gwylwyr y Glannau am help, bydd yr wybodaeth hon yn eu helpu i ddod o hyd i chi.

 

21. A yw’n bosibl hawlio tystysgrif am gwblhau pob rhan o Lwybr yr Arfordir?

Cyn i chi gychwyn, argraffwch ein taflen Her Llwybr yr Arfordir neu gallwch gael un o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi.

Cwblhewch y ffurflen a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y daflen ac mi anfonwn dystysgrif atoch yn ddi-dâl. Gallwch ddewis prynu bathodyn brethyn arbennig am £5 sydd ar gael yn unig i’r sawl sydd wedi cwblhau Llwybr yr Arfordir yn ei gyfanrwydd.

Darganfyddwch fwy am Lwybr Arfordir Penfro