Pethau i’w Gwneud

O’R HAMDDENOL I’R EITHAFOL

O deithiau cerdded hamddenol a gwylio’r haul yn machlud, i hobïau cyffrous fel syrffio ac arforgampau, gallwch chi ddod o hyd i’r hyn sy’n rhoi modd i fyw i chi ar hyd Arfordir Penfro.

Os ydych chi wrth eich bodd yn yr awyr agored, gallwch ddarganfod pethau newydd ar hyd pob llwybr, traeth a thon; ac mae mwy o bethau i’w darganfod dan do os ydych chi am ymochel rhag y tywydd.

Ni fyddai unrhyw ymweliad yn gyflawn heb gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro, ond does dim angen profiad blaenorol i fwynhau’r llwybr.

Mae’r Llwybr yn mynd heibio i holl draethau godidog yr ardal, ac mae’n cysylltu â llwybrau gerllaw, a chyda rhai darnau’n hygyrch i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn a theuluoedd â phramiau a choetshis cadair, mae hi nawr yn haws nag erioed i gyflawni’r elfen hon o’ch rhestr o bethau gwerth chweil i’w gwneud.