Mae gan yr Ystafell Ddarganfod man arddangos ar gyfer gweithiau celf 3D, gan gynnwys cerameg, gemwaith, gwydr a cherflunwaith.

Mae ceisiadau arddangos ar gau ar hyn o bryd. E-bostiwch ni i gael mwy o wybodaeth am arddangosfeydd.

Ysgol Penrhyn Dewi

Dydd Mawrth 24 Mehefin i ddydd Iau 17 Gorffennaf 2025

Yn yr arddangosfa hon mae detholiad o waith celf gan fyfyrwyr o Ysgol Penrhyn Dewi yn Nhyddewi. Gyda gwaith o Flwyddyn 7 hyd at Flwyddyn 11, ac yn cynnwys darnau TGAU, mae’r arddangosfa’n tynnu sylw at greadigrwydd a sgiliau ein hartistiaid ifanc. Ar ddangos mae paentiadau sidan, portreadau mynegiannol, ac amrywiaeth o weithiau ysbrydoledig eraill sy’n adlewyrchu talent y myfyrwyr.

Various pieces of artwork created by pupils at Ysgol Penrhyn Dewi