Llun - David Hicks, Llywiwr bad achub cyntaf Tyddewi © RNLI

Yn 2024, rydyn ni’n dathlu 200 mlynedd o Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), yr elusen sydd wedi ymroi i achub bywydau ar y môr. Mae chwe gorsaf bad achub ac 13 o draethau sydd ag achubwyr bywydau yr RNLI ar hyd arfordir hardd ond peryglus Sir Benfro. Cewch eich ysbrydoli gan straeon pobl gyffredin sy’n gwneud pethau arbennig, gyda gemau a gweithgareddau ar gyfer y teulu cyfan. Mae’r cydweithrediad rhwng Amgueddfa Cymru, yr RNLI ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro hefyd yn gweld arddangosfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae’n un o ddwy arddangosfa yng Nghymru i ddathlu’r flwyddyn arbennig hon.

Portrait of Whitesands lifeguard, Margot Lawrence © Zak Morgan

Portread o achubwr bywyd Porth Mawr, Margot Lawrence © Zak Morgan