Nodwch, mae'r arddangosfa hon bellach wedi cau. Yn Tir/Môr mae Mike Perry yn tynnu ein sylw at yr argyfwng hinsawdd sy’n gwaethygu fan hyn yng Nghymru.

Mae’r arddangosfa bwerus hon o ffotograffiaeth tirluniau yn herio ffyrdd confensiynol o edrych ar ein harfordir a chefn gwlad, ac yn agor ein llygaid i ystyried perthynas fregus cymdeithas â byd natur. Mae gwaith Perry yn cymell sgwrs am sut i fynd ati i adfer ecosystemau iach a thirlun mwy gwyllt.

Oriel ar-lein

Ewch i oriel ar-lein arddangosfa Tir/Môr.

Ynglŷn â'r Artist

Mae Mike Perry yn byw ac yn gweithio yn Sir Benfro, lle gwnaeth lawer o’r gwaith sydd yn y sioe hon. Mae ei ffotograffiaeth tirwedd gyfoes yn datgelu’r gwrthdaro rhwng gweithgareddau dynol a’r angen dybryd i fynd i’r afael â’n problemau amgylcheddol. Dysgwch fwy ar wefan Mike Perry.

 

Recordiadau Digwyddiadau Ar-lein

Tirweddau i’r dyfodol? Trafodaeth digidol. Cadeirir gan y darlledwr Jamie Owen. (Isdeitlau Cymraeg)

Mae’r Jamie Owen yn ymuno â’r artist Mike Perry, Dr Sarah Beynon, cadwraethwr a sylfaenydd Bug Farm Tyddewi, Ian Rickman, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru ac Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Dr Rosie Plummer. Cewch glywed yr arbenigwyr hyn yn trafod yr heriau sydd o’n blaenau, y newidiadau sy’n gallu gwneud gwahaniaeth, a sut gallwn ni elwa o adfer byd natur.

 

Mike Perry a Bronwen Colquhoun ‘Mewn Sgwrs’ (Isdeitlau Cymraeg)

Mae’r ffotograffydd tirwedd gyfoes, Mike Perry yn ymuno ag Uwch Guradur Ffotograffiaeth yn Amgueddfa Cymru, Bronwen Colquhoun mewn sgwrs yn trafod y themâu, y dulliau a’r cymhelliant y tu ôl i waith Mike.

 

Prosiect Ysgol Gynradd St Monica

Yn Nhymor yr Hydref 2021, gweithiodd Ffotogallery gyda phlant Ysgol Gynradd St Monica’s yn Cathays, Caerdydd, i ymchwilio effeithiau llygredd ar ein traethau lleol yn Ne Cymru. Cafodd y prosiect Ysgol Gynradd St Monica ei ysbrydoli gan waith yr artist Mike Perry, ei arddangosfa Tir/Môr, ac yn arbennig ei gorff o waith, Môr Plastig.

 

Sut gallwn ni wneud ein tirweddau’n fwy gwyllt?

Rhannwch eich ymateb i Tir/Môr ac ymunwch yn y sgwrs ar-lein.

#tirmor

 

Ffilmiau (dolenni i gynnwys allanol)

 

Sain (dolenni i gynnwys allanol)

 

Pecyn Addysg (dolenni i gynnwys allanol)

 

Helpu i Adfer Natur

Mae llawer y gallwch ei wneud i helpu i adfer natur, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a glanhau llygredd plastig!

 

Gwirfoddoli gyda’r Parc Cenedlaethol

 

Defnyddio Ffotograffiaeth i Olrhain Newid Hinsawdd

 

Helpu Perchnogion Tir i Wneud Gwahaniaeth

  • Mae Gwarchod y Parc yn gynllun gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n chwarae rôl arbenigol wrth weithio gyda pherchnogion tir lleol i adfer cynefin bywyd gwyllt er budd amrywiaeth o flodau gwyllt, gloÿnnod byw, adar, mamaliaid ac ymlusgiaid. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â’n tudalen Gwarchod y Parc.

 

Arddangosfa deithiol gan Ffotogallery yw Tir/Môr wedi ei churadu gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery, a Ben Borthwick.