Mae’r Cod Cefn Gwlad yn eich helpu i barchu, diogelu a mwynhau cefn gwlad, a’ch galluogi chi i wneud y mwyaf o’ch ymweliad.
Mae’n cynnig cyngor defnyddiol ynghylch y canlynol:
- Paratoi ar gyfer eich ymweliad
- Cadw eich hun a phobl eraill yn ddiogel
- Gwneud yn siŵr bod cefn gwlad yn parhau i fod yn lle hardd y gall pawb ei fwynhau.
I gael manylion llawn, gan gynnwys amrywiaeth o godau ar gyfer gweithgareddau penodol fel genweirio, canŵio a nofio gwyllt, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Y Cod Cefn Gwlad ar gyfer y Coronafeirws
Parchwch bobl eraill
- Ystyriwch y gymuned leol ac eraill sy’n mwynhau’r awyr agored
- Parciwch yn ofalus a chadw giatiau a rhodfeydd yn glir
- Gadewch giatiau ac eiddo fel yr oeddent
- Dilynwch lwybrau ond gadewch i eraill basio pan fydd hi’n gul.
Diogelwch yr amgylchedd naturiol • Peidiwch â gadael olion eich ymweliad. Ewch â’ch sbwriel adref gyda
chi
- Byddwch yn ofalus gyda barbeciwiau, a pheidiwch â dechrau tanau
- Cadwch gwn dan reolaeth effeithiol
- Baw ci – rhowch ef mewn bag a’i roi yn y bin neu ewch ag ef gyda chi.
Mwynhewch yr awyr agored
- Cynlluniwch ymlaen llaw, drwy ganfod pa gyfleusterau sydd ar agor, a pharatoi
- Dilynwch gyngor ac arwyddion lleol a chadwch bellter cymdeithasol.