Ymwelwyr o’r Cefnfor

Mae’n bosib ymweld ag un o gytrefu adar y môr Sir Benfro i weld y pâl, yr heligog a gwalch y penwaig yn eu holl ysblander, ond nid ydyw mor hawdd deifio o dan y tonnau i gael cipolwg ar y bywyd gwyllt morol gwefreiddiol sy’n pasio’r glannau bob blwyddyn.

Mae Sir Benfro’n ffodus iawn. Mae’n ymdrochi mewn dyfroedd sydd wedi teithio o’r Caribî trwy Lif y Gwlff. Mae’r un cerhyntau yn dod â maetholion at ein glannau ac mae’r rhain, yn eu tro, yn denu creaduriaid sy’n chwilio am fwyd.

Beth sy’n llechu o dan yr wyneb? Mae Sir Benfro’n croesawu ymwelwyr morol sy’n amrywio o’r heulforgi, y chwysigen fôr, y morfil minc a sawl math o ddolffin.

Pysgod

Mae Sir Benfro’n elwa o’r hinsawdd forol fwyn y mae Llif y Gwlff yn ei chario’r holl ffordd o India’r Gorllewin. Daw’r un dyfroedd â llond lle o blancton, pysgod ac ystifflogod i ddyfroedd Sir Benfro dros yr haf. Yn naturiol, mae gwledd mor foethus yn denu ychydig o aelodau mwy egsotig y môr i ginio.

Yn sicr, y creadur mwyaf i ymweld â dyfroedd Sir Benfro, yw’r heulforgi. Mae’r pysgodyn hwn yn gallu tyfu i fod mor fawr a thrwm â bws deulawr, ond mae’n byw’n gyfan gwbl ar blancton,  ac anifeiliaid a phlanhigion microsgopig. Dros yr haf, gellir ei weld o’r arfordir yn symud yn araf drwy’r dŵr, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn grŵp. Mae yna lawer am fywyd y creadur hwn sydd ddim yn wybyddus, ond mae poblogaethau heulforgwn yn ymddangos eu bod yn symud i fyny Môr Iwerddon tuag at Ynys Manaw.

Ymwelydd rhyfeddaf y cefnfor yw’r heulbysgodyn. Mae’r pysgodyn hwn yn edrych bron fel plât cinio mawr, yn grwn ac yn wastad. Mae’n nofio’n unionsyth gyda ffiniau anferth ar y top ac oddi tano i helpu llywio, neu gellir ei weld ar ei ochr ar yr arwyneb, yn amsugno gwres yr haul. Mae heulbysgod yn ymweld â Sir Benfro’n aml dros yr haf, a gellir eu gweld o’r arfordir neu’r ynysoedd oddi ar y lan.

Barrel jellyfish washed up on the beach, Barafundle, Pembrokeshire.

Slefrenni Môr

Daw slefrenni môr ar gerhyntau’r cefnfor sy’n taflu hinsawdd forol fwyn dros Sir Benfro, ac maen nhw’n ymweld â’r arfordir yn rheolaidd dros yr haf. Gellir gweld pum prif fath; y slefren gasgen, slefren mwng y llew, slefren y lleuad, y slefren gwmpawd a’r slefren las.

Mae slefren y lleuad yn rhywogaeth a welir yn gyffredin. Dyma’r slefrenni môr a welir gan amlaf wedi eu golchi arno i’r traethau yn gynnar yn yr haf. Maen nhw fel disgiau crwn tua maint soser gyda phedair cylch ysgafn yn y canol. Maen nhw’n gallu pigo ryw ychydig.

Mae’r slefren gasgen yn fwy o faint, ond yn hollol ddiniwed, ac mae’n un o’r rhywogaethau mwyaf sydd i’w gweld yn y Deyrnas Unedig. Mae’r slefren hon hefyd i’w gweld yn farw ar draethau, ac i’w gweld gan amlaf yn Ne Sir Benfro oddi ar yr arfordir yn Ystagbwll.

I ddilyn y slefrenni môr, daw’r creaduriaid sy’n bwydo arnynt. Ystyrir crwban y môr yn greadur dyfroedd trofannol, ond mae’n mwynhau slefren fôr neu ddwy ac yn ymweld ag arfordir Penfro’n rheolaidd. Y math mwyaf cyffredin o grwban y môr a welir yn y dyfroedd hyn yw’r môr-grwban lledraidd, ymlusgiad sy’n gallu tyfu i 6 throedfedd o hyd. Mae môr-grwbanod eraill sy’n ymweld yn cynnwys y môr-grwban pendew a’r môr-grwban gwalchbig.

Common dolphins

Morfilod a Dolffiniaid

Ni ellir dweud mai ymwelwyr tymhorol ag arfordir Penfro yn unig yw’r morfilod a’r dolffiniaid, ac mae yna nifer o forfilod a dolffiniaid i’w gweld ym Môr Iwerddon. Ymhlith y rheiny a welir yn rheolaidd mae llamhidydd yr harbwr a’r dolffin cyffredin, trwynbwl a llwyd. Yn wir, mae gan Fôr Iwerddon un o’r poblogaethau pwysicaf o ddolffiniaid trwynbwl yn y Deyrnas Unedig, a nifer sylweddol o lamhidyddion yr harbwr.

Pam mae’r mamaliaid hyn yn defnyddio Môr Iwerddon? Caiff y dyfroedd o amgylch arfordir Penfro eu troi gan gerhyntau llanwol cryf sy’n cylchdroi maetholion, ac mae’r dyfroedd felly’n gyfoeth o fywyd môr, sy’n fwyd perffaith i ddolffiniaid a morfilod. Dros fisoedd yr haf, mae amodau’r tywydd a chyflwr y môr yn cyfuno i dynnu niferoedd mawr o blancton, gwymon ac ystifflogod  i mewn i Fôr Iwerddon. Mae hyn yn denu mamaliaid morol a fyddai fel arfer ond yn cael eu gweld yn y cefnfor agored. Mae’r rhywogaethau’n cynnwys morfilod minc, morfilod ffin, morfilod pengrwn a dolffiniaid pig cwta.

Beth yw’r ffordd orau o weld y creaduriaid hyn? Mae’n bosib eu gweld oddi ar lwybr yr arfordir, ac oddi ar yr ynysoedd oddi ar y lan. Gellir cael taith ar gwch hefyd o Borthstinian a Solfach. Mae Ymddiriedolaeth Môr De a Gorllewin Cymru’n defnyddio’r cwch sy’n croesi’r culfor o Abergwaun i fonitro morfilod a dolffiniaid.

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol