Mae cred fod sawl ysbryd yn cerdded drwy Gastell Caeriw; dywedir bod rhyfelwr Celtaidd yn cerdded y gladdgell ac efallai mai ysbryd bachgen cegin sy’n gyfrifol am y synau cloncian sosbenni a phadelli a glywir yn dod o’r gegin.

Ond yr ysbrydion mwyaf diddorol, a’r rhai y gwyddom fwyaf amdanynt, yw’r ‘ladi wen’ a welwyd yn crwydro o un ystafell i’r llall, ac ysbryd epa Barbari.

Mae sawl ymchwiliad paranormal wedi eu cynnal yng Nghastell Caeriw. Mae’r Castell ar gael ar log i grwpiau a chymdeithasau sydd am aros dros nos i wneud ymchwiliadau. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Y Dywysoges Nest

Fe wnaiff llawer o bentrefwyr Caeriw ddweud wrthych eu bod wedi gweld y ladi wen; ysbryd addfwyn sy’n cerdded yr adfeilion yng ngolau dydd neu yng ngolau’r lleuad lawn.

Dyma ysbryd y Dywysoges Nest, y ferch harddaf yng Nghymru, sy’n dal i groesawu ymwelwyr i’w Chastell yn union fel y gwnaethai 900 mlynedd yn ôl.

Merch Rhys ap Tewdwr, brenin Deheubarth, oedd Nest, a threuliodd beth amser yn llys Harri I yn Llundain tua diwedd yr 11eg ganrif.

Syrthiodd Harri mewn cariad â hi, ac yn fuan iawn ganwyd mab iddynt.

Er mwyn osgoi embaras yn ei lys, dywedir i Harri drefnu i Nest briodi marchog Normanaidd, sef Gerald de Windsor, Cwnstabl Castell Penfro. Doedd Nest ddim yn hapus, gan nad oedd hi erioed wedi cwrdd â Gerald. Ond i’w thawelu, caniataodd Harri iddi fynd â’i morwyn gyda hi i Benfro – cyfeilles dda o’r enw Branwen, a oedd yn siarad Cymraeg ac wedi bod gyda Nest ers iddi gael ei geni.

Marchog dewr a golygus oedd Gerald, yn ennyn parch pawb oedd yn ei adnabod. Nid oedd erioed wedi cwrdd â Nest ond roedd wedi clywed am ei phrydferthwch. Pan orchmynnwyd iddo ei phriodi, mae’n debyg nad oedd yn hapus o gwbl gan ei fod yn galaru am farwolaeth ei feistres.

Ond priodi a wnaethant, a gyda threigl y blynyddoedd fe ddaeth y ddau i garu ei gilydd yn fawr iawn. Fel rhan o’i gwaddol briodas, roedd gan Nest rywfaint o dir yng Nghaeriw a dyma lle y bu iddyn nhw adeiladu castell o bridd a physt pren er mwyn magu eu teulu o bump neu ragor o blant.

Roedd gan Nest sawl edmygydd, gan gynnwys ei chefnder Owain a oedd wedi cwrdd â hi mewn gwledd. Roedd wedi’i lorio gymaint gan ei phrydferthwch nes iddo gynnal gwarchae ar y Castell er mwyn ei chipio.

Dihangodd Gerald gyda’r plant trwy’r carthffosydd, ond cymerwyd Nest yn wystl. Dywed rhai iddi fynd o’i gwirfodd!

Cafodd ei dal yn ‘garcharor’ yng Nghastell Cilgerran am chwe blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw rhoddodd o leiaf ddau o blant i Owain. Maes o law llwyddodd Gerald i achub Nest a lladd Owain mewn brwydr, ond yn anffodus, bu yntau farw flwyddyn yn ddiweddarach.

Wedyn priododd y Dywysoges Nest â Stephen, castellydd Castell Aberteifi, gan eni mab i Stephen flwyddyn yn unig wedi i Gerald farw.

Bu farw Nest yn fuan wedyn, ond yng Nghaeriw, ei gwir gartref, dywedir y gwelir ei hysbryd yn cerdded tir y Castell ar noson lonydd.

Ghostly image, white on a background

Yr Epa Barbari

Roedd Syr Rowland Rees, y tybir iddo fod yn denant yn y castell yn ystod y 17eg ganrif, yn deithiwr profiadol a oedd wedi ymweld ag Arfordir Barbari ac wedi dod ag epa wedi’i anafu yn ôl gydag ef wedi iddo’i achub o long Sbaenaidd ddrylliedig.

Yn ôl yr hanes roedd wedi gallu hyfforddi’r creadur diolchgar i ymateb i bob dymuniad o’i eiddo â chyfres o chwibanau.

Yn ôl y stori wedyn, roedd gan Syr Rowland un mab a redodd i ffwrdd gyda merch masnachwr lleol, perthynas nad oedd Syr Rowland yn ei chymeradwyo.

Ar y noson dyngedfennol, roedd storm yn codi. Sgrechiai’r gwynt o amgylch y castell a chwipiai’r glaw yn erbyn y ffenestri. Roedd yr epa’n aflonydd, yn synhwyro tymer mileinig Syr Rowland.

Daeth cnoc ar y drws a mynnodd tad y ferch, masnachwr o’r enw Horwitz, gael dod i mewn, yn llawn gofid a phoen fod ei ferch wedi rhedeg i ffwrdd gyda mab Syr Rowland. Doedd Syr Rowland ddim yn credu ei stori, ac ar ôl ffrae ffyrnig, rhyddhaodd yr epa o’i gadwynau a’i orchymyn i ladd Horowitz.

Ymladdodd y masnachwr yn erbyn yr epa, ac er ei fod wedi’i anafu’n ddrwg, llwyddodd i lusgo’i hun o’r ystafell. Galwodd am help gan y gweision, a ofalodd amdano’r noson honno.

Melltithiodd Horowitz Syr Rowland gan alw tynged ddrwg arno ac, wrth iddo felltithio, clywyd sgrechiadau erchyll o ystafell y tŵr. Roedd ar y gweision ofn eu meistr, a doedd yr un ohonynt yn barod i fentro i ystafell y tŵr i weld beth oedd wedi digwydd.

Ar doriad dydd drannoeth, dyma nhw’n ymwroli i fentro i mewn i’r ystafell dawel. Yno, yn gorwedd mewn pwll o waed, roedd corff Syr Rowland, ond doedd dim golwg o’r epa yn unman.

Yn ôl y chwedl, bydd ysbryd yr epa’n dychwelyd i’r Castell ar nosweithiau tywyll, stormus, ac mae wedi’i weld a’i glywed yno gan bobl oedd yn pasio heibio. Pam mae’r epa’n dychwelyd? Does neb yn gwybod…