Camwch yn ôl mewn amser a chyfnewid eich addunedau yn lleoliad hanesyddol Castell Caeriw

Dychmygwch eich hunain wedi eich amgylchynu â chanrifoedd o hanes wrth ichi ddweud ‘Gwnaf’ yn un o dirnodau mwyaf eiconig Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Castell Caeriw wedi bod yn anghyfannedd ers diwedd yr 17eg ganrif a chyfeirir ato’n aml fel yr ‘adfail rhamantaidd’ gan iddo gael ei baentio gan y teithiwr, y bardd a’r arlunydd tirluniau, enwog, JMW Turner.

Yn 2022 cafodd Castell Caeriw ei drwyddedu i gynnal seremonïau sifil a chynhaliwyd y Briodas gyntaf yma ers i gofnodion gychwyn!

Mae nifer o ystafelloedd ar gael ar gyfer seremonïau sifil, yn ogystal ag ardaloedd awyr agored syfrdanol, llawn awyrgylch gyda golygfeydd dros Lyn y Felin at y Felin Heli. Gallwn gynnal priodasau dan do i hyd at 100 o westeion a gallwn hefyd gynnig seremonïau awyr agored ar gyfer priodasau mwy o faint.

Yn dilyn eich seremoni, cofnodwch atgofion fydd yn para oes gan dynnu ffotograffau ymysg cyfuniad trawiadol y Castell o bensaernïaeth Ganoloesol, Tuduraidd ac Elisabethaidd.

I’ch helpu i ddathlu gyda’ch anwyliaid, gall Ystafell De Nest ddarparu diodydd a chanapés neu blatiau pori ar gyfer eich gwesteion yng Nghwrt y Castell neu’r Ardd Furiog yn dilyn y seremoni.

Castell Caeriw, â’i bensaernïaeth drawiadol, a’i olygfeydd hudol a’i hanes cyfoethog, yw’r lleoliad perffaith i wireddu priodas eich breuddwydion.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch ni ar weddings@carewcastle.com

Wedding at Carew Castle