Daeareg

Pan fyddwch chi’n meddwl am Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, efallai y byddwch chi’n dychmygu traethau tlws, golygfeydd eang oddi ar Lwybr yr Arfordir a phentrefi pysgota bach tlws gyda thafarndai bach croesawgar. Ni fyddwch, o angenrheidrwydd, yn meddwl am ffabrig y clogwyni neu’r hyn sydd o dan eich traed. Ond, credwch neu beidio, mae’r cerrig sy’n ffurfio sylfeini’r Parc yn un o’r prif resymau dros ein dynodiad fel Parc Cenedlaethol yn y lle cyntaf.

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’n arddangos amrywiaeth anhygoel o fathau o graig a thirffurfiau. Mae’r rhain bellach yn hygyrch i ddaearegwyr pybyr ac ymwelwyr trwy ein rhaglen o deithiau tywys, ac efallai eich bod chi wedi cerdded heibio i safle daearegol pwysig heb yn wybod i chi. A’r geoamrywiaeth hwn oedd un o’r ffactorau allweddol tu ôl i’r penderfyniad i ddynodi Arfordir Penfro yn Barc Cenedlaethol ym 1952.

Sefydlwyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, sy’n 186 milltir o hyd, yn fuan wedi hynny. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd wedi prynu sawl darn o’r morlin i’w warchod rar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae hyn yn dangos yn union mor werthfawr, a bregus, yw ein treftadaeth ddaearegol.

Mae amrywiaeth y creigiau, ac ansawdd ac ehangder yr amlygiad, wedi denu sylw daearegwyr ers canrifoedd lawer. Mae’r adnodd hwn yn hynod o bwysig i ymchwil ac addysg ac, o ganlyniad, mae tua 40% o’r morlin yn cynnwys nodweddion daearegol a warchodir gan Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae gan y rhan fwyaf o’r SoDdGA hyn nodweddion biolegol.

Mae oed y creigiau’n amrywio o’r cyfnod Cyn-gambriaidd i’r cyfnod Carbonifferaidd hwyr (tua 650 – 290 miliwn mlwydd oed). Mae creigiau Cwaternaidd, a dyddodion Cwaternaidd heb eu cyfnerthu, hefyd wedi eu gwasgaru’n eang, ac fe’u gwelir fel arfer yn gorwedd dros y creigiau hÅ·n.

Darllen y Creigiau

Mae’r creigiau Cyn-gambriaidd yn unigryw igneaidd, ac, yn bennaf, maen nhw’n lludw folcanig ac yn fewnwthiadau gweddol fawr o ficrowenithfaen a diorit. Maen nhw’n amlwg ar ben de orllewinol Penrhyn Tyddewi ac ar glogwyni mewnol Bae Sain Ffraid sy’n wynebu’r gogledd a’r de.

Creigiau gwaddodol yw’r creigiau Cambriaidd, gan fwyaf; clymfaen sylfaenol gyda thywodfaen, yn bennaf, yn gorwedd drosto, ond gwelir rhai cerrig llaid yn rhan ganol y dilyniant. Maen nhw’n agored ar hyd ochrau deheuol a gorllewinol Penrhyn Tyddewi ac mewn darn o’r morlin sy’n gweld llai o ymwelwyr, rhwng Abercastell ac Abermawr.

Ar wahân i hyn, mae morlin gogleddol Sir Benfro, o Ynys Dewi i’r ardal ychydig i’r dwyrain o Abergwaun, yn greigiau Ordoficaidd, yn gyfan gwbl, gyda llechi a chreigiau folcanig yn bennaf, ond o Ynys Dinas i Aber y Teifi mae’r clogwyni’n arddangos dilyniannau tyrbedd (tywodfaen a cherrig llaid rhynghaenol).

Mae creigiau Silwraidd, folcanig a gwaddodol, yn ffurfio Penrhyn Marloes ac Ynys Sgomer.

Map showing the Pembrokeshire's diverse geology

Creigiau Campus!

Yn Ne Sir Benfro, mae’r brigiadau o wahanol greigiau’n ymestyn i’r Grll Gog Orll – Dw De Ddw ac yn cael eu hailadrodd gan effeithiau plygu ac erydiad, fel y gwelir o’r map. Mae’r holl fathau nodedig hyn o greigiau hefyd i’w gweld mewn ardaloedd eraill o Dde Cymru ac fe fyddan nhw’n gyfarwydd i lawer o bobl.

Mae’r Hen Dywodfaen Coch yn cynnwys tywodfaen, cerrig silt a cherrig llaid o goch llachar, ynghyd â pheth clymfaen a thywodfaen gwyrdd. Fel arfer, mae’r Calchfaen Carbonifferaidd yn llwyd golau ar arwynebau sydd wedi eu hindreulio, er eu bod yn aml yn fwy tywyll ar arwynebau ffres. Mae trwch y gwelyau’n amrywio ac mae’r calchfeini’n gallu bod yn rhai rhynghaenol gyda cherrig llaid calchaidd tywyllach.

Mae dilyniannau’r Grut Melinfaen a’r Cystradau Glo â chymeriad tebyg. Maen nhw’n cynnwys siâl o lwyd tywyll neu ddu, a thywodfaen llwyd golau (yn aml, mae’r tywodfaen llwyd golau wedi troi’n lliw oren-brown ar arwynebau wedi eu hindreulio). Mae gan y Grut Melinfaen ddilyniant sylfaenol, a rhan uwch, o dywodfaen grutiog, wedi ei wahanu gan greigiau mwy amrywiol. Mae’r Cystradau Glo’n cynnwys gwythiennau glo tenau o lo carreg.

Mae’r dyddodion Cwaternaidd, sydd fel arfer yn gorwedd ar draws copa’r clogwyni, ond sydd weithiau’n ffurfio’r clogwyn cyfan fel y gwelir yn Druidston Haven ac Abermawr, yn cynnwys til (‘clog-glai’), dyddodion priddlifiad (clai caregog ble mae clastiau gwastad yn dangos aliniad ffafriol), sgri wedi’i chwalu gan rew a thywod wedi ei chwythu gan y gwynt (ac mae’r ddau fath diwethaf fel arfer wedi eu smentio’n naturiol) a marianbridd.

Wave-cut platform geological formation on the beach at Manorbier

Tirffurfiau teg

Mae yna weddillion bach o lwyfannau wedi eu torri gan donnau, weithiau wedi eu smentio gan gerrig crynion a chregyn, a ffurfiwyd tua 125 mil o flynyddoedd yn ôl pan yr oedd lefel y môr tua 5m yn uwch nag y mae ar hyn o bryd, i’w gweld mewn sawl lleoliad, a’r mwyaf nodedig yw Traeth Poppit, Porth Clais, Traeth Marloes, Freshwater West ac Aber Llydan. Mae yna systemau twyni tywod i’w gweld mewn nifer o leoliadau.

Mae’r tirffurfiau’n cynnwys yr holl rai nodedig a ffurfiwyd gan brosesau arfordirol (gan gynnwys nifer o enghreifftiau perffaith), ond efallai bod yna weddillion o hen olygfeydd hefyd, gan gynnwys sianelau o ddŵr tawdd wedi eu boddi’n rhannol, fel Harbwr Solfach, nodweddion carst wedi eu hailweithio (e.e. ogofau a chwythdyllau o’r clogwyni calchfaen), a gweddillion llechweddau’r dyffrynnoedd (a gynrychiolir gan odiroedd â chlogwyni môr modern islaw).

Mae tystiolaeth o dirlithriadau a chreigiau’n disgyn yn gyffredin iawn, a dylid cynnal asesiad gweledol gofalus o sefydlogrwydd y clogwyn cyn dechrau dringo.

Darllenwch fwy am Ddaearyddiaeth y Parc Cenedlaethol