Cynllun Ffiniau Traddodiadol 2023/24

Mae hwn yn gynllun grant ar gyfer adfer ffiniau traddodiadol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. I ddatgan diddordeb am y cynllun, byddwch angen llenwi ffurflen a'i chyflwyno i ni erbyn dydd Llun 13 Tachwedd yn y man hwyraf. Gwerthusir a phrosesir ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin.

Cefndir

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfoeth o ffiniau caeau traddodiadol, yn cynnwys perthi Sir Benfro, cloddiau pridd a chloddiau cerrig sychion.  Gan amlaf, mae’r math o ffin yn adlewyrchu’r cyflyrau lleol, y deunyddiau sydd ar gael ac oed y ffin ei hun.   Mae’r ffiniau hyn yn gyfraniad sylweddol i dirlun ac ecoleg y Parc Cenedlaethol.

 

Dan fygythiad

Mae pwysigrwydd ffiniau traddodiadol o fewn y system ffermio wedi dirywio, ynghyd â’r gwaith llafur ffermio sydd ar gael i’w cynnal nhw.  Heb waith cynnal a chadw cyfnodol, mae perthi yn llacio ac yn creu bylchau, ac mae cloddiau pridd sydd ddim wedi’u ffensio yn erydu a dymchwel, proses a waethygir gan dda byw. Heb weithred sylweddol, mae perygl y gall y nifer o’n ffiniau ddiflannu am byth.

 

Y cynllun grant

Rydym yn gweithredu cynllun grant peilot i ddarparu cyfleoedd i dirfeddianwyr dderbyn cymorth ariannol gyda holl agweddau’r gwaith cynnal a chadw ac adfer ffiniau caeau traddodiadol.  Mae cronfa’r grant yn gyfyngedig a bydd grant yn cael ei gynnig yn flynyddol hyd 2024. Byddwn yn gweithredu system y cyntaf i’r felin ar gyfer gwaith sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau, felly cynghorir ymgeiswyr sydd â diddordeb i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosib.

 

Sut mae’n gweithio?

Ar ôl derbyn y ffurflen gais, bydd  Arwel Evans, Swyddog cadwraeth Fferm yn cysylltu â chi i drefnu ymweld ar ffin a’i fesur. Telir y gwaith am bob metr / Canran o gost y gwaith unwaith mae’r gwaith wedi’i gyflawnu.

Beth ydym yn ei ariannu?

Pob agwedd ar waith adfer ffiniau traddodiadol, yn cynnwys adfer cloddiau pridd a chloddiau cerrig, adfer cloddiau cerrig sychion, plygu perthi a choedlannu, creu perthi newydd a chreu bylchau rhwng perthi presennol. Nid ydym yn ariannu ffiniau domestig (e.e clawdd gardd)

Bydd ymgeiswyr yn cael eu cyfyngu i 300m o waith. Ariennir gwerth uchafswm o 300m o ffensio. Os bydd angen ffensio bob ochr i glawdd yna fyd yna uchafswm o 150m bob ochr yn cael ei ariannu.

Rydym yn ffafrio ariannu gwaith adfer ffiniau cyfan, o nod i nod (e.e. o un gornel y cae i’r llall ac at giât) yn hytrach na gwaith adfer rhannol.  Fodd bynnag, rydym yn derbyn mai cynnal gwaith adfer rhannol yw’r unig opsiwn mewn rhai achosion (e.e. adrannau hir o gloddiau cerrig sychion o gwmpas tiroedd comin).

Creu perthi newydd  Hyd at 75% Adfer clawdd pridd Hyd at 70%
Adfer perth bresennol drwy goedlannu neu blygu perthi £5/m Adfer clawdd cerrig Hyd at 70%
Creu bylchau rhwng perthi presennol £4.50 /m Adfer clawdd cerrig sych Hyd at 70%
Ffensio £6 /m Noder, rydym yn ariannu gwaith ffensio ar y cyd â gwaith adfer ffiniau arall yn unig, ac nid fel eitem unigol.

Ar ôl cytuno ar gwmpas y gwaith sydd angen ei wneud ar y ffin, bydd yr ymgeisydd angen trefnu dyfynbrisiau gan gontractwr preifat i gwblhau’r gwaith.  Gallwn ddarparu manylion contractwyr, yn ogystal â manylebau a chanllawiau i’w rannu â’ch contractwr. Fel ymgeisydd, gallwch ddarparu dyfynbris i gynnal y gwaith eich hun os dymunwch wneud hynny, fodd bynnag, efallai y gofynnwn am dystiolaeth o’r sgiliau hanfodol.

Ar ôl i ni gytuno ar eich dyfynbris ar gyfer cwblhau’r gwaith, byddwn yn gwneud cynnig am grant ffurfiol i chi.  Bydd yr ymgeisydd yn comisiynu’r gwaith, a thelir y grant ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, yn ogystal â chyflwyno anfoneb a llun gyda thystiolaeth/arolwg safle boddhaol gan staff y parc.

 

Blaenoriaethau

Os bydd y cynllun yn derbyn mwy o geisiadau na’r disgwyl, efallai y byddwn yn ystyried y canlynol wrth flaenoriaethu ceisiadau:

  • Gwerth bywyd gwyllt
  • Agosrwydd neu welededd o dramwy cyhoeddus
  • Cyfraniad i’r tirlun
  • Gwerth hanesyddol

Cymorth pellach

Os ydych angen cymorth neu ragor o wybodaeth, cysylltwch â Arwel Evans ar 01646 624849 neu ebosiwch arwele@arfordirpenfro.org.uk.

Ffurflen mynegi diddordeb

Cwblhewch y ffurflen hyd eithaf eich gwybodaeth, a byddwn yn cysylltu â chi i’w thrafod mewn manylder. Fel arall, lawrlwythwch gopi o’r ffurflen a anfowch ar ebost i ebost i arwele@arfordirpenfro.org.uk.

    Ar gyfer pa fath o waith ydych chi'n awyddus i ymgeisio am gymorth? Ticiwch bob un sy'n berthnasol yn eich barn chi.

    Noder, rydym yn ariannu gwaith ffensio ar y cyd â gwaith adfer ffiniau arall yn unig, ac nid fel eitem unigol.

    Sut rydym yn defnyddio eich data

    Dyddiad cau

    Dydd Llun 13 Tachwedd 2023

    Mwy am gwarchodaeth