Oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu i gyflawni rhaglen gweithgareddau a digwyddiadau'r Awdurdod, gan gynnwys teithiau cerdded tywysedig? Os felly, gallai'r cyfleoedd isod fod o ddiddordeb i chi.
Gwirfoddolwyr Gweithgareddau
Mae Gwirfoddolwyr Gweithgareddau yn cefnogi rhaglen weithgareddau a digwyddiadau Awdurdod y Parc Cenedlaethol, sydd wedi’i chynllunio i helpu trigolion lleol ac ymwelwyr i ddysgu a deall mwy am y Parc Cenedlaethol. Mae Gwirfoddolwyr Gweithgareddau yn cynnig help llaw mewn digwyddiadau i deuluoedd, yn cadw grwpiau gyda’i gilydd ar deithiau cerdded, ac yn helpu i sicrhau fod pawb sy’n mynychu ein digwyddiadau yn mwynhau eu hunain ac yn aros yn ddiogel.
Arweinwyr Teithiau Cerdded Gwirfoddol
Mae rhai Gwirfoddolwyr Gweithgareddau yn arwain teithiau cerdded a digwyddiadau. Rydym ni’n cynnig hyfforddiant i arwain teithiau cerdded, hyfforddiant cymorth cyntaf, hyfforddiant asesu risg a phan yn briodol hyfforddiant bws mini MiDAS fel bod ein gwirfoddolwyr yn gallu arwain digwyddiadau yn hyderus.