Bywyd Gwyllt sydd yn sownd neu mewn trafferth

Yn anffodus, mae bywyd gwyllt weithiau yn mynd yn sownd ar Arfordir Penfro. Dros y blynyddoedd, morfilod peilot, dolffiniaid, llamhidyddion a morfilod pig i gyd wedi dod yn sownd. Yn ystod misoedd mis Awst hyd at fis Tachwedd, weithiau gellir gweld morloi bach mewn gofid.

Mae’n bwysig cymryd y camau cywir ar unwaith gan ddefnyddio’r sefydliadau perthnasol a restrir isod.

I gael help i nodi’r gwahanol rywogaethau y gallech ddod ar eu traws, gweler y daflen hon ar wefan UK Strandings.

Morloi, morfilod, dolffiniaid, llamhidyddion a chrwbanod

Yn fyw ond yn sownd neu yn cael starch:

  • Ffoniwch yr RSPCA ar 0300 1234 999
  • neu ffoniwch Welsh Marine Life Rescue (Terry Leadbetter) ar 01646 692943 neu 07970 285086.
  • Os oes morlo bychan ar ei ben ei hun ar draeth, fel arfer mae’n golygu bod ei fam yn y dŵr gerllaw. Am ragor o wybodaeth gweler ein taflen ar forloi.

Yn sownd eisoes wedi marw:

  • Ar gyfer morfilaidd (morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion) ffoniwch y Cetacean Strandings Investigations Programme on 0800 652 0333. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan UK Strandings.
  • Ar gyfer anifeiliaid marw eraill ffoniwch Cyngor Sir Penfro ar 01437 764551.

Wedi gweld rhywbeth anarferol e.e. heulgi, ysgol fawr o ddolffiniaid neu gipolwg ar grwban y môr:

Porpoise fin breaching the water

Adar y môr ac adar eraill

Diweddariad: Gorffennaf 2023

Gofyn i aelodau’r cyhoedd beidio â chyffwrdd adar gwyllt sâl neu feirw wrth i ffliw adar gael ei gadarnhau
 
Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i beidio â chyffwrdd unrhyw adar gwyllt sâl neu feirw y gallant ddod ar eu traws yn Sir Benfro ac i gadw eu cŵn oddi wrthynt.

Mae cannoedd o adar y môr wedi’u golchi i’r traethau yn ne Sir Benfro yn ddiweddar. Mae’r adar yn cael eu tynnu’n rheolaidd, ond mae mwy ohonynt yn cael eu golchi i’r traeth rhwng yr ymgyrchoedd glanhau. Gwylogod yw’r rhain fwyaf ohonynt, ond cofnodwyd gweilch y penwaig a gwylanwyddau hefyd.

Cynhaliwyd profion ar sampl o’r adar meirw ac mae ffliw adar wedi’i gadarnhau yr wythnos hon.

Mae ymateb amlasiantaeth ar waith i ymdrin â’r mater.

  • Dylid rhoi gwybod am adar meirw mewn mannau cyhoeddus drwy ffonio 01437 764551 (neu 0345 601 5522 y tu allan i oriau) er mwyn i Gyngor Sir Penfro drefnu i’w casglu’n ddiogel.
  • Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw adar gwyllt sâl neu wedi’u hanafu (ar dir cyhoeddus neu breifat), cysylltwch â’r RSPCA ar 0300 1234 999.
  • Dylid rhoi gwybod i CSP am adar meirw ar dir preifat ar y rhifau uchod at ddibenion casglu gwybodaeth, ond bydd angen cael gwared arnynt trwy DEFRA ar 03459 33 55 77 neu ewch i wefan Gov.uk (agor mewn ffenest newydd).
Barrel jellyfish washed up on the beach, Barafundle, Pembrokeshire.

Slefrod môr

Yn fyw ond yn sownd:

  • Mae’n annhebygol y byddwch chi’n gallu achub slefrenni môr sydd wedi mynd yn sownd ar y lan. Gadewch nhw lle maen nhw. Nid yw’n anarferol i nifer fawr o slefrod môr bach gael eu golchi ar y traeth.
  • Rhybuddiwch nofwyr os ydyn nhw’n slefrenni môr coliog.

Wedi gweld pethau anarferol e.e. nifer o slefrod môr gwyn, mwng y llew neu chwysigod môr:

Da byw

​Anifeiliaid domestig yn sownd neu mewn trallod ar yr arfordir:

  • Ffoniwch yr RSPCA ar 0300 1234 999.

Anifeiliaid marw ar draethau:

  • Ffoniwch Gyngor Sir Penfro ar 01437 764551.

 

Wildlife that is being disturbed by people, boats, kayaks or other watercraft

  • Cysylltwch â Swyddog Cod Morol Sir Benfro ar 07977 939325.

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol